Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gwasanaethau Cymdeithasol - Cwynion, Canmoliaeth a Sylwadau


Summary (optional)
Sut ydw i'n cwyno, yn canmol neu’n rhoi sylwadau am y Gwasanaethau Cymdeithasol?
start content

Beth ddylech chi ei wneud?

Cysylltwch â'r Swyddog Cwynion ar:

Fel arall llenwch y ffurflen ar-lein:

Neu anfonwch ffurflen Canmoliaethau a Chwynion (PDF) at:

Swyddog Cwynion Statudol
Adran Gwasanaethau Cymdeithasol
Blwch Post 1
Conwy
LL30 9GN


Mae’r daflen hon ar gael ar ffurf hawdd ei ddarllen hefyd.

Y bobl a all roi cwyn

Gall unrhyw aelod o'r cyhoedd, gan gynnwys plentyn, sydd wedi cael, neu a oedd â hawl i gael gwasanaeth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, wneud cwyn. Mae'r un peth yn wir os ydynt wedi dioddef oherwydd camau amhriodol y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Mae Rheoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2014 yn darparu ar gyfer cynrychiolydd i wneud cwyn ar ran rhywun. Gall cynrychiolydd wneud cwyn ar ran rhywun os yw'r person hwnnw:

  • yn blentyn; neu
  • wedi gofyn i'r cynrychiolydd weithredu; neu
  • heb allu o fewn ystyr Deddf Galluedd Meddyliol 2005; neu
  • wedi marw.

Rhaid i unrhyw gynrychiolydd sy'n gwneud cwyn ar ran rhywun gael ei ystyried gan y Gwasanaethau Cymdeithasol â digon o ddiddordeb yn lles y person hwnnw ac yn berson addas.

Amserlenni i ddatrys eich cwyn

Os byddwn yn derbyn eich cwyn ar lafar, a’ch bod chi’n cytuno, byddwn yn ceisio ei datrys o fewn 24 awr, gan sicrhau bod rheolwr perthnasol yn cysylltu â chi i drafod y pryderon a’u datrys.

Cydnabyddir cwyn Cam 1 o fewn 48 awr a bydd rheolwr perthnasol yn ceisio cysylltu â chi o fewn 10 diwrnod gwaith, i drafod eich cwyn a chytuno ar benderfyniad. Os cytunir ar hyn, byddant yn ysgrifennu atoch o fewn 5 diwrnod gwaith (felly ni ddylai Cam 1 gymryd mwy na 15 diwrnod gwaith i’w ddatrys).

Os na allwn ddatrys eich cwyn yng ngham 1, gallwn ei symud ymlaen i gam 2, lle bydd Ymchwilydd Annibynnol yn cael ei benodi i ymchwilio i'ch cwyn ac adrodd eu canfyddiadau a gwneud unrhyw argymhellion.  Yng ngham 2 ein nod yw ymateb i chi o fewn 25 diwrnod gwaith, yn dechrau o pan fyddwch yn cytuno â’r datganiad cwyn.

Ombwdsmon

Os bydd eich cwyn yn dal heb ei datrys, mae gennych hawl i fynd at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn:

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru,
1 Old Field Road
Pencoed
Caerdydd
CF35 5LJ

Cymorth eirioli ar gyfer cwynion

Os oes arnoch angen mynegi pryder ynglŷn â’r GIG neu wasanaeth gofal cymdeithasol, gall Llais Gogledd Cymru ddarparu cymorth annibynnol a chyfrinachol yn rhad ac am ddim. Ffoniwch nhw ar 01978 356178 neu 01248 679284 neu e-bostiwch northwalesadvocacy@llaiscymru.org.

 

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?