Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Gofal Cymdeithasol a Lles Cymorth i bobl gydag anableddau Gwasanaeth Anabledd – beth rydym yn ei wneud

Gwasanaeth Anabledd – beth rydym yn ei wneud


Summary (optional)
Rydym yn gweithio gyda phobl o bob oed yng Nghonwy sydd ag anabledd.
start content

Mae anabledd yn nam corfforol neu feddyliol sy’n:

  • sylweddol
  • hir dymor
  • yn effeithio ar eich gallu i gyflawni gweithgareddau dydd i ddydd arferol

Gall anabledd fod o ganlyniad i ystod eang o namau, fel:

  • Colli clyw neu olwg
  • Cyflyrau sy'n mynd a dod dros amser
  • Cyflyrau sy'n gwaethygu dros amser
  • Cyflyrau awto-imiwnedd
  • Problemau gyda'ch calon, ysgyfaint, iau ac arennau
  • Anableddau dysgu

Bydd ein tîm yn gweithio gyda chi hyd yn oed os nad oes gennych unrhyw un o'r namau hyn, os mai dyna'r peth iawn i'w wneud.

Mae gennym aelodau tîm sy'n gweithio i Ofal Cymdeithasol a'r Gwasanaeth Iechyd.  Rydym yn gweithio'n agos gydag adrannau eraill yng Nghonwy a sefydliadau eraill i sicrhau bod gennych yr ansawdd bywyd gorau posibl.  Rydym am sicrhau eich bod:

  • Yn cael cymorth i gyflawni popeth y gallwch
  • Yn cael y cymorth cywir ar yr adeg gywir
  • Yn ddiogel ac wedi'ch amddiffyn rhag camdriniaeth

Cofrestrau Anabledd

Rydym yn cadw'r cofrestri canlynol:

  • Cofrestr Anableddau Dysgu
  • Cofrestr Nam ar y Golwg
  • Cofrestr Pobl Fyddar / Trwm eu Clyw
  • Cofrestr Nam Deuol ar y Synhwyrau

Mae bod ar y gofrestr yn golygu y cewch newyddlenni a gwybodaeth am faterion anabledd. Gallai hefyd fod yn ddefnyddiol wrth ymgeisio am ostyngiadau.

Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth ar y gofrestr i’n helpu i wneud penderfyniadau ynghylch ein gwasanaethau anabledd.

Byddwn yn gofyn os hoffech gael eich cynnwys ar y cofrestri, fodd bynnag, ar gyfer y gofrestr nam ar y golwg, mae’n rhaid i chi gael eich asesu gan y GIG.

Côd Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol

I wneud yn siŵr fod gweithwyr yng Nghymru yn rhoi gofal a chymorth da i chi, mae gennym Gôd Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol (y Côd) ac rydyn ni’n cofrestru grwpiau o weithwyr i wneud yn siŵr eu bod yn addas i weithio.

Set o reolau, neu safonau, y mae’n rhaid i weithwyr gofal proffesiynol weithio yn unol â nhw yw’r Côd, i helpu eich cadw’n ddiogel ac iach.

end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?