Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Gofal Cymdeithasol a Lles Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014


Summary (optional)
Daeth y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) i rym ar 6 Ebrill 2016.
start content

Mae’r Ddeddf yn rhoi’r fframwaith cyfreithiol i wella lles pobl sydd angen gofal a chymorth, a Gofalwyr sydd angen cymorth, a thrawsnewid gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.

Darllenwch y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).

Gallwch hefyd ddarllen cynnwys y Ddeddf mewn fersiwn hawdd i’w ddarllen a chrynodeb i bobl ifanc.

Mae'r ddogfen gwybodaeth hanfodol yn rhoi golwg ar y Ddeddf a'i fframwaith cyfreithiol ehangach.

Mae gwybodaeth am y rheoliadau a chodau ymarfer a chanllawiau statudol sy’n ategu'r Ddeddf ar gael hefyd.

Egwyddorion y Ddeddf yw:

Llais a rheolaeth

Rhoi chi a’ch anghenion wrth wraidd eich gofal, a rhoi llais a rheolaeth i chi er mwyn cael y canlyniadau sy’n sicrhau eich lles chi.

Atal ac ymyrryd yn gynnar

Cynyddu gwasanaethau atal yn y gymuned i’ch helpu chi’n gynt a lleihau’r angen am wasanaethau yn y dyfodol.

Lles

Eich cefnogi chi i sicrhau eich lles, a mesur llwyddiant unrhyw ofal a chymorth sy’n cael ei ddarparu i chi.

Cydweithio

Eich annog i fod yn gymaint o ran o gynllunio a darparu gwasanaethau ar eich cyfer ag ydych chi’n dymuno.

Mae'r hyn sy'n bwysig i chi yn bwysig i ni

Mae'r ffilm fer hon yn edrych ar y Ddeddf a sut fydd yn effeithio arnoch chi. Cafodd ei chreu gan Asiantaeth Gwella’r Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Cyngor Gofal a phartneriaid eraill.


Y 'Weledigaeth Newydd' dan y Ddeddf

Mae hon yn ffilm gan y Sefydliad Economeg Newydd, sy'n trafod profiad unigolion o ddefnyddio gwasanaethau. Mae’n esbonio gweledigaeth y Ddeddf o gryfhau eich llais a rhoi mwy o reolaeth i chi.


Asesiadau Gofalwyr

Mae’r ffilm hon yn egluro sut mae gan Ofalwyr hawl gyfartal i gael eu hasesu i gael cymorth, er mwyn iddyn nhw allu bod yn ofalwr.


I gael mwy o wybodaeth, ewch i:

 

end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?