Manylion y cwrs
Nod: Bydd y gofalwr maeth yn gallu disgrifio pam y gallai cyhuddiadau ddigwydd a thrafod eu harfer gofalu diogel.
Dyddiad | Amser | Lleoliad |
Dydd Llun 27 Ionawr 2025 |
9:30am tan 12:30pm |
Coed Pella, Ystafell Hyfforddi |
Dydd Llun 3 Mawrth 2025 |
9:30am tan 12:30pm |
Coed Pella, Ystafell Hyfforddi |
Nodau ac amcanion y cwrs
Amcanion Dysgu:
- Ystyried pam y gall cyhuddiadau ddigwydd mewn maethu.
- Deall y broses ar gyfer rheoli cyhuddiadau yn erbyn gofalwyr maeth.
- Gwybod pa gefnogaeth a gwybodaeth y dylai gofalwyr maeth ei gael pe gwneid cyhuddiad yn eu herbyn.
- Adolygu arferion gofalu diogel teuluoedd sy’n maethu, yng ngoleuni’r trafodaethau.
Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynychu cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs oni bai eich bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.