Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Adran 5 Swyddi o Ymddiriedaeth (Gweithdrefnau Diogelu Cymru)


Summary (optional)
start content

Dyddiadau

Sesiynau bore,  9:30am tan 12:30pm  (9:15am cyrraedd ar gyfer te/coffi a chofrestru)

  • 2024:  4 Gorffennaf,  4 Rhagfyr

Sesiynau prynhawn,  1:30pm tan 4:30pm  (1:15pm cyrraedd ar gyfer te/coffi a chofrestru)

  • 2024:  12 Medi

Manylion y cwrs

  • Lleoliad:  Coed Pella, Bae Colwyn
  • Hyfforddwr:  Alys Jones, Arweinydd Diogelu Oedolion Conwy
  • Gwasanaethau targed:  Busnes a Thrawsnewid, Lles Cymunedol, Tîm Anableddau, Cymorth i Deuluoedd ac Ymyrraeth, Plant sy’n Derbyn Gofal, Gwasanaethau a Gomisiynir, Pobl Hŷn a Gwaith Cymdeithasol Ysbyty, Safonau Ansawdd, Y Tîm Pobl Ddiamddiffyn, Y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, Gofalwyr Maeth, Tîm Datblygu a Dysgu Gweithlu Conwy
  • Grŵp targed:  Rheolwyr Tîm, Adain a Gwasanaeth

Nodau ac amcanion y cwrs

  • Sicrhau dealltwriaeth gadarn o broses Adran 5.
  • Sicrhau cyfrifoldeb unigol dros wneud penderfyniad.
  • Deall eich rôl fel rheolwr tra’n delio gydag achosion Adran 5 posibl ac wrth ddarparu cefnogaeth briodol.
  • Deall y cyd-destun deddfwriaeth o ran proses Adran 5.
  • Meithrin dull cyson ar draws yr awdurdod i ymateb i achosion Adran 5.
  • Nodi hyder a chymhwysedd yn y maes ymarfer hwn, yn ogystal ag anghenion cymorth ychwanegol.

Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynychu cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu.  Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.

end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?