Manylion y cwrs
Dyddiad | Amser | Lleoliad | Hyfforddwr | Grŵp targed |
17 Hydref 2019 |
9:15am cyrraedd ar gyfer te/coffi a chofrestru 9.30am - 4.40pm |
Ystaffell 3, Coed Pella, Ffordd Conwy, Bae Colwyn. LL29 7AZ |
Ruth Ingram, SGA Consultancy |
Gwasanaethau Targed: Anelir y cwrs at Reolwyr Darpariaeth/Unigolion Cyfrifol Grŵp Targed: Gwasanaethau a Gomisiynir |
28 Ionawr 2020 |
9:15am cyrraedd ar gyfer te/coffi a chofrestru 9.30am - 4.40pm |
Ystaffell 4, Coed Pella, Ffordd Conwy, Bae Colwyn. LL29 7AZ |
Ruth Ingram, SGA Consultancy |
Gwasanaethau Targed: Anelir y cwrs at Reolwyr Darpariaeth/Unigolion Cyfrifol Grŵp Targed: Gwasanaethau a Gomisiynir |
Nodau ac amcanion y cwrs
Bydd y cwrs yn ystyried dyletswyddau a chyfrifoldebau amrywiol y gwasanaethau darparu wrth atal ac ymateb i'r perygl o gamdriniaeth ymysg oedolion sydd ag anghenion gofal a chymorth.
Cynnwys y cwrs
- Gwella hyder i gyflawni dyletswyddau a chyfrifoldebau proffesiynol i ddiogelu oedolion sydd mewn perygl
- Achosion ac atal camdriniaeth mewn lleoliadau darparwyr
- Creu “diwylliant diogelwch”
- Trothwyon – pryd i ddefnyddio prosesau amddiffyn oedolion aml-asiantaeth
- Rôl y rheolwr yng ngweithdrefnau diogelu oedolion aml-asiantaeth – ymholiadau ac ymchwiliadau; rheoli ymchwiliadau/digwyddiadau difrifol; ymchwiliadau disgyblu; cwynion staff a chwsmeriaid; cynlluniau diogelu ac amddiffyn
- Cadw’r oedolyn sydd mewn perygl wrth galon y broses
Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynd ar y cwrs cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynd ar unrhyw gwrs oni bai eich bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.