Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gweithwyr Proffesiynol yn Amddiffyn - Cam-drin Plant yn Rhywiol


Summary (optional)
start content

Dyddiadau

  • 2024: 20 Medi, 5 Tachwedd

Manylion y cwrs

  • Amser: 9:45am cyrraedd ar gyfer te/coffi a chofrestru, 10.00am - 12.30pm (20 Medi) | 13:45pm cyrraedd ar gyfer te/coffi a chofrestru, 14:00pm - 16:30pm (5 Tachwedd)
  • Lleoliad: Coed Pella
  • Hyfforddwr: Lucy Faithful - Stop It Now
  • Gwasanaethau targed: Busnes a Thrawsnewid, Pobl Hŷn a Gwaith Cymdeithasol Ysbyty, Lles Cymunedol, Safonau Ansawdd, Tîm Anableddau, Tîm Pobl Ddiamddiffyn, Cymorth i Deuluoedd ac Ymyrraeth, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, Plant sy’n Derbyn Gofal, Gofalwyr Maeth, Gwasanaethau a Gomisiynir (PIVs)
  • Grŵp targed: Gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc

Nodau ac amcanion y cwrs

Nod y sesiwn 2 awr anffurfiol hwn yw codi ymwybyddiaeth a darparu gwybodaeth i weithwyr proffesiynol ar y ffeithiau yn ymwneud â cham-drin plant yn rhywiol a’n cyfrifoldeb i’w atal, gyda gwybodaeth wedi ei theilwra ar gyfer anghenion plant gydag anghenion ychwanegol. Mae’r sesiwn yn cynnwys:

  • Deall ymddygiad y sawl sy’n cam-drin
  • Sut a pham fod pobl yn cam-drin plant yn rhywiol
  • Deall bod plant gydag anghenion ychwanegol yn fwy agored i niwed
  • Y rhwystr i adnabod ymddygiad niweidiol a sut i'w oresgyn
  • Y camau cadarnhaol y gall oedolion eu cymryd i atal cam-drin plant yn rhywiol o fewn capasiti proffesiynol drwy weithio gyda phlant a phobl ifanc neu deuluoedd

Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynychu cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu.  Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.

end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?