Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Casgliadau sbwriel ac ailgylchu dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd


Summary (optional)
start content

Diwrnodau casglu

  • Os mai dydd Llun yw eich diwrnod casglu arferol, eich diwrnod casglu dros y Nadolig fydd dydd Sadwrn 21 Rhagfyr, ac nid oes newid i’ch diwrnod casglu dros y Flwyddyn Newydd.
  • Os mai dydd Mawrth yw eich diwrnod casglu arferol, eich diwrnod casglu dros y Nadolig fydd dydd Llun 23 Rhagfyr, ac nid oes newid i’ch diwrnod casglu dros y Flwyddyn Newydd.
  • Os mai dydd Mercher yw eich diwrnod casglu arferol, eich diwrnod casglu dros y Nadolig fydd dydd Mawrth 24 Rhagfyr, ac eich diwrnod casglu dros y Flwyddyn Newydd fydd dydd Iau 2 Ionawr.
  • Os mai dydd Iau yw eich diwrnod casglu arferol, eich diwrnod casglu dros y Nadolig fydd dydd Gwener 27 Rhagfyr, ac eich diwrnod casglu dros y Flwyddyn Newydd fydd dydd Gwener 3 Ionawr.
  • Os mai dydd Gwener yw eich diwrnod casglu arferol, eich diwrnod casglu dros y Nadolig fydd dydd Sadwrn 28 Rhagfyr, ac eich diwrnod casglu dros y Flwyddyn Newydd fydd dydd Sadwrn 4 Ionawr.

Fy nyddiad casglu.

Coed Nadolig go iawn

Os oes gennych danysgrifiad casglu gwastraff gardd gyda Bryson Recycling, byddant yn casglu'ch coeden go iawn gyda'r naill neu'r llall o'ch casgliadau ym mis Ionawr. Gofynnwn i chi dorri’r coed yn ddarnau llai nag un metr a’u rhoi yn eich bin brown er mwyn i Bryson eu casglu. Os nad oes gennych danysgrifiad, gallwch fynd â'ch coeden i un o'n Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Gallwch hefyd rwygo a chompostio'ch coeden gartref.

Amserau agor Canolfannau Ailgylchu dros y Nadolig

Bydd y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref ym Mochdre ac Abergele’n cau am dri diwrnod dros y Nadolig, ac yn agored yn hwyrach rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. Mae’n rhaid i chi drefnu apwyntiad i ymweld â’r ganolfan ailgylchu.

Ailgylchu dros y Nadolig

Ailgylchwch i’r eithaf y Nadolig hwn, i wneud lle yn y bin!

Papur lapio – os nad oes unrhyw gliter neu ffoil ynddo, gallwch fel arfer ei roi yn y bocs uchaf. Tynnwch unrhyw dâp gludiog, rubanau a dolennau yn gyntaf. Os nad ydych chi’n siŵr, gwasgwch y papur lapio’n bêl yn eich dwylo – os yw’n cadw’i siâp, gallwch ei roi yn y bocs ailgylchu.


Cardiau Nadolig
– Tynnwch unrhyw rubanau neu gliter a rhoi’r cardiau i mewn gyda’ch papur. Os ydych chi wedi cael cardiau cerddorol â batris ynddynt, gall y rheiny fynd yn eich bag batris.

Gallwch ailgylchu goleuadau coeden Nadolig a theganau electronig yn eich bag pinc.

Torchau – gall pethau naturiol fel eiddew, moch coed, uchelwydd a chelyn fynd i’r compost, neu yn eich biniau gwastraff o’r ardd, cyn belled nad oes unrhyw gliter drostynt.

Pecynnu – tynnwch unrhyw blastig neu bolystyren o’r bocsys cyn ichi eu hailgylchu. Rhowch eich bocsys yn fflat cyn eu rhoi allan i’w casglu.Os oes gennych lawer iawn o focsys, rhowch nhw allan i’w casglu dros nifer o wythnosau. Methu aros? Defnyddiwch y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref am ddim.

end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?