'Ail-Ddychmygu Tŷ'r Congo/Y Sefydliad Affricanaidd' - 16 Mawrth 2024 – Rhagfyr 2024
Arddangosfa newydd yn archwilio ac yn ail-ddychmygu hanes Tŷ’r Congo/Sefydliad Affricanaidd Bae Colwyn.
Mae Gwasanaeth Amgueddfeydd Conwy yn cynnal arddangosfa newydd a fydd yn ail-ddychmygu Tŷ’r Congo/Y Sefydliad Affricanaidd a oedd wedi’i leoli ym Mae Colwyn rhwng 1889 a 1912.
Sefydlwyd Tŷ’r Congo/Y Sefydliad Affricanaidd ym Mae Colwyn yn 1889 gan y Parch. William Hughes. Roedd yn Genhadwr y Bedyddwyr yn Congo rhwng 1882 a 1885 a bu iddo sefydlu Tŷ’r Congo (a elwir yn ddiweddarach yn Y Sefydliad Affricanaidd), fel sefydliad hyfforddi ar ôl gorfod dychwelyd i Gymru oherwydd salwch. Sefydlwyd y Sefydliad i hyfforddi myfyrwyr Du mewn ystod o sgiliau a chrefftau. Bu i rai ohonynt ddychwelyd adref ar ôl hyn, tra bod eraill wedi mynd ymlaen i astudio mewn prifysgolion ar draws Prydain, gan ddychwelyd i Affrica fel meddygon, athrawon, nyrsys a newyddiadurwyr.
Mae’r Gwasanaeth Amgueddfeydd wedi gweithio gyda phobl o Ogledd Cymru a Chanol Affrica i adrodd hanes y Sefydliad Affricanaidd, wedi’i gefnogi gan ymgynghorwyr treftadaeth Dr Marian Gwyn, Raj Pal, yr Athro Robert Burroughs, Grŵp NWAMI Bae Colwyn (Rhwydwaith ar gyfer Ymwybyddiaeth Fyd-eang o Integreiddiad Aml-ddiwylliannol), a’r Swyddog Amgueddfeydd, Rachel Evans. Mae’r arddangosfa yn defnyddio celf, animeiddiad ac arteffactaui archwilio gwahanol safbwyntiau ar y rhan bwysig hon o Hanes Pobl Dduon yng Nghymru.
Bydd yr arddangosfa hon yn arddangos myfyrdodau creadigol o brosiect celf dan arweiniad artist o Gamerŵn sy’n byw yng Ngogledd Cymru, Mfikela Jean Samuel, sydd wedi gweithio gyda’r athrawes gelf Aimee Jones, a disgyblion o Ysgol Bryn Elian. Bu iddynt archwilio hanes y Sefydliad i gynhyrchu cyfres o baentiadau.
Wrth siarad am y prosiect, dywedodd Mfikela Jean Samuel: “Fel artist Affricanaidd sy’n byw yng Ngogledd Cymru, mae’r prosiect hwn i mi yn gyfuniad gwych o brofiadau sy’n dwyn ynghyd straeon y gorffennol a’r presennol o fewnfudwyr ac ymwelwyr sy’n dod i Ogledd Cymru”.
Bu i Gerddoriaeth a Ffilm Gymunedol TAPE hefyd arwain prosiect animeiddiad gydag Ysgol Y Gogarth ac aelodau o gymuned Bae Colwyn i ddod â rhai o straeon y Sefydliad Affricanaidd yn fyw trwy animeiddiad.
Dywedodd Elly, Sam a Noah, animeiddwyr yng Ngherddoriaeth a Ffilm Gymunedol TAPE: “Roedd yn anrhydedd i TAPE weithio gyda’r gymuned leol i greu’r animeiddiadau hyn. Mae cyfranogiad cymaint, gan gynnwys aelodau cymuned allweddol o Matadi (dinas yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd Congo), wedi helpu i wneud hwn yn brofiad anhygoel, bythgofiadwy a gwerth chweil i bawb dan sylw.”
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Wynne, Aelod Cabinet Diwylliant a Hamdden, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy: ““Mae’r arddangosfa hon yn cynnig safbwyntiau newydd pwysig ac mae Gwasanaeth Amgueddfeydd Conwy wedi creu profiad cyfoethog i ymwelwyr gysylltu â hanes Tŷ’r Congo/Y Sefydliad Affricanaidd a’i archwilio.”
Bydd yr arddangosfa i’w gweld yn Llyfrgell Bae Colwyn o 16 Mawrth 2024. Oriau agor y llyfrgell yw dydd Llun, dydd Mercher, dydd Iau a dydd Gwener – 9am-5.30pm, dydd Mawrth 10am-7pm, a dydd Sadwrn 9.30am-3pm.
Mae’r arddangosfa wedi’i hariannu gan AIM a Llywodraeth Cymru trwy’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ynghyd â Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Diwylliant Conwy | Amgueddfeydd
Wedi ei bostio ar 14/03/2024