Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion 'Sing and Smile' sessions come to Conwy County

Sesiynau 'Canu a Gwenu' yn dod i Sir Conwy


Summary (optional)
start content

Sesiynau 'Canu a Gwenu' yn dod i Sir Conwy

Mae Tîm Lles Conwy wedi bod yn gweithio gyda Goldies Cymru i ddod a sesiynau canu a cherddoriaeth i bobl hŷn yn Sir Conwy.

Mae Goldies Cymru yn elusen sy’n trefnu sesiynau canu a gweithgareddau yn ystod y dydd gyda’r nod o wella lles ar gyfer unrhyw un a allai deimlo’n unig neu wedi’u hynysu. Gan weithio gyda Thîm Lles Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, maent eisoes wedi cynnal digwyddiadau yn Llandrillo-yn-Rhos a Llanrwst ar gyfer pobl dros 50 oed. Rŵan, mae eu prosiect ‘Cynefin’ yn canolbwyntio ar sesiynau pontio’r cenedlaethau. Bydd y digwyddiad nesaf ar 16 Gorffennaf yn dod â phobl hŷn a chyfranogwyr iau ynghyd, pan fydd ysgol gynradd Llandrillo-yn-Rhos yn ymuno i gymryd rhan mewn bore o ganu a dawnsio.

Dywedodd Shelley Richardson o Dîm Lles Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, “Rydym wedi gweld y manteision o ddod â’r cenedlaethau hŷn ac iau ynghyd mewn digwyddiadau eraill rydym wedi’u cynnal. Mae effeithiau cadarnhaol canu ar gyfer iechyd meddyliol a chorfforol, yn golygu yn ogystal â bod yn hwyliog, mae’r sesiynau’n wych ar gyfer eich lles hefyd.”

Dywedodd Cheryl Davies, arweinydd rhaglen Goldies Cymru, “Mae ein gwirfoddolwyr ‘Goldies’ wedi gweld o lygad y ffynnon, y gwahaniaeth gall y sesiynau hyn eu cael ar fywydau cynifer o bobl, gan gwrdd â phobl newydd a gwneud cysylltiadau cymdeithasol. Rydym wedi cael rhai sesiynau gwych yn Sir Conwy hyd yn hyn, ac rydym yn gobeithio y bydd yn mynd o nerth i nerth.”

Mae’r digwyddiad canu ynghyd am ddim, nid oes angen archebu lle, ac mae’n cael ei gynnal ar 16 Gorffennaf, rhwng 10:30am a hanner dydd yn Neuadd Eglwys Rhos, Colwyn Avenue, Llandrillo-yn-Rhos.

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Shelley Richardson yn Nhîm lles Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy trwy e-bost arosyniach@conwy.gov.uk neu ffoniwch 01492 577449.

I gael mwy o wybodaeth am ymweliad Goldies, ewch i www.goldiescymru.org.uk

Wedi ei bostio ar 01/07/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content