Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Adolygiad 20mya


Summary (optional)
start content

Adolygiad 20mya

20mph sign

Arwydd 20mya

Rhwng Ebrill a Gorffennaf 2024, gwahoddodd Llywodraeth Cymru bobl o bob cwr o Gymru i gysylltu â’u Cyngor lleol i roi adborth ar sut mae’r newidiadau i’r terfyn cyflymder diofyn cenedlaethol wedi cael eu rhoi ar waith ar strydoedd penodol.

Gofynnwyd i bob Cyngor yng Nghymru gasglu adborth trigolion ar y terfynau 20mya, er mwyn iddynt allu asesu hyn yn erbyn canllawiau diwygiedig Llywodraeth Cymru ar osod terfyn cyflymder o 30mya ar ffyrdd cyfyngedig a ffyrdd terfyn cyflymder 20mya eraill. Cyhoeddwyd y canllawiau diwygiedig ym mis Gorffennaf.

Rydym wedi defnyddio’r Meini Prawf Lle yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru i adolygu ffyrdd A a B 20 mya. Rydym bellach wedi paratoi rhestr flaenoriaeth o’r ffyrdd perthnasol a fydd yn cael eu hasesu’n llawn.

Y strydoedd a’r ffyrdd hyn yw:

B5115:

  • B5115 o Brompton Avenue, Bae Colwyn drwy Llandudno Road, Bae Penrhyn
  • B5115 Colwyn Road, Llandudno i Ffordd Conwy, Llanrhos

Bryn Lupus Road, Llanrhos

Promenâd Rhos a Marine Drive, Llandrillo-yn-Rhos

Ffordd Glan y Môr, Bae Penrhyn

B5106:

  • B5106 o Gyffin drwy Dal y Bont
  • B5106 Dolgarrog i Drefriw

A547:

  • A547 Llanddulas Road, Abergele
  • A547 Llysfaen Road, Hen Golwyn i Ffordd Abergele, Bae Colwyn
  • A547 Pont Conwy

A548 – Ffordd y Foryd a Ffordd Towyn, Tywyn a Bae Cinmel

B5383 Rotary Way, Hen Golwyn

St Asaph Avenue Bae Cinmel

B5113 - Kings Drive i Ffordd Llanrwst, Bryn y Maen

B5279 Ffordd Tyn y Groes

Meirion Drive, Conwy

B4406 Penmachno i’r A5

Hen Ffordd Conwy i Fwlch Sychnant

Maesdu Avenue, Deganwy

 

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Cam 4 Casglu data ac asesu safleoedd. Bydd y data yn cynnwys cyflymder a llif traffig, a damweiniau traffig hanesyddol.

Cam 5 Os yw’r asesiad yn awgrymu y gellir ystyried newid y terfyn cyflymder, byddwn yn ymgynghori gyda thrigolion lleol, aelodau lleol, cynghorau tref/cymuned a’r gwasanaethau brys er mwyn derbyn eu barn.

Cam 6 Os ystyrir bod cynnig i newid terfyn cyflymder yn dderbyniol, yna byddwn yn cychwyn proses Gorchymyn Rheoleiddio Traffig. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am broses Gorchymyn Rheoleiddio Traffig ar ein gwefan yma: Beth yw Gorchmynion Rheoli Traffig (GRT)

Cam 7 Newid arwyddion terfyn cyflymder (ble bynnag y bo’n briodol).

Wedi ei bostio ar 16/01/2025

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content