Terfyn Cyflymder 20mya – eithriadau
O 17 Medi 2023, bydd y terfyn cyflymder diofyn o 20mya yn dod i rym ar ffyrdd trefol ar draws Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn newid y terfyn cyflymder diofyn o 30mya i 20mya i wneud strydoedd yn fwy diogel trwy leihau tebygolrwydd o wrthdrawiadau - a marwolaeth neu niwed ohonynt. Bydd hyn hefyd yn gwneud y strydoedd yn fwy diogel ar gyfer cerdded, beicio a theithio ar olwynion.
Bydd y newidiadau yn digwydd ar ffyrdd lle bydd goleuadau stryd wedi’u gosod dim mwy na 200 llath ar wahân, a leolir fel arfer mewn ardaloedd preswyl ac adeiledig y mae pobl yn eu defnyddio’n aml.
Nid yw’r ddeddfwriaeth newydd yn golygu y bydd yr holl ffyrdd yn newid i 20mya, bydd rhai yn aros yn 30mya ac yn cael eu hadnabod fel yr eithriadau.
Mae pob cyngor yng Nghymru yn ystyried pa strydoedd yn eu hardal a ddylai aros yn 30mya, yn dilyn meini prawf Llywodraeth Cymru.
Mae nifer o ffyrdd yng Nghonwy a all gael eu heithrio o’r terfyn cyflymder newydd.
I bennu eithriad i ffordd gyfyngedig, mae’n rhaid i ni gael achos clir a rhesymegol sy’n dangos bod tystiolaeth gref yn bodoli y byddai cadw terfyn cyflymder uwch yn ddiogel.
Rydym wedi asesu ffyrdd cyfyngedig ar draws y sir ac wedi canfod ffyrdd sy’n bodloni’r meini prawf eithriadau. Mae’r rhestr o ffyrdd wedi cael ei rhannu gyda’r holl Gynghorwyr, a gofynnwyd iddynt ganfod ffyrdd eraill yn eu wardiau le maent yn teimlo bod eithriadau yn gymwys.
Gallwch weld yr eithriadau arfaethedig ar Fap Data Cymru gyda mwy o wybodaeth yn adran Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Arfaethedig ar ein gwefan.
Gallwch hefyd wedi copïau o’r cynigion mewn copi papur yn ein swyddfeydd Coed Pella.
Mwy o wybodaeth: Terfyn Cyflymder 20mya - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Gorchmynion Rheoleiddio Traffig: Amryw Ffyrdd - Terfynau Cyflymder - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Wedi ei bostio ar 27/07/2023