Ymgynghoriad ar lwybr Teithio Llesol: Pont Conwy A547
Dweud eich dweud!
Rydym angen eich help wrth i ni lunio cynlluniau i wneud mynediad i Gonwy yn haws ar droed, ar gyfarpar ar olwynion neu ar feic.
Rydym ni’n gweithio i ddod o hyd i ddatrysiad a ffefrir ar gyfer llwybr teithio llesol Pont Conwy, rhwng glannau gorllewinol a dwyreiniol Afon Conwy ar draws pont A547 Ffordd Conwy sydd eisoes yn bodoli.
Ein nod wrth uwchraddio a chreu llwybrau newydd ar gyfer cerdded, beicio a chyfarpar ar olwynion, yw bod teithio llesol yn dod yn ffordd arferol o fynd o amgylch yr ardal leol. Mae hyn yn lleihau traffig diangen ac yn helpu teuluoedd i deithio’n ddiogel ac mewn ffordd gynaliadwy.
Dywedwch wrthym beth rydych chi'n ei feddwl
Gallwch weld y cynlluniau arfaethedig a rhoi eich sylwadau rhwng 2 a 23 Awst 2023
Sesiynau galw heibio: Neuadd Eglwys y Santes Fair, Rose Hill Street, Conwy, LL32 8SD ar 3 Awst 2023, rhwng 2pm a 7pm
Ar ein gwefan yn www.conwy.gov.uk/teithiollesol o 2 Awst 2023
Wedi ei bostio ar 26/07/2023