Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Ail-lansio Llwybr Alys yn Llandudno

Ail-lansio Llwybr Alys yn Llandudno


Summary (optional)
start content

Ail-lansio Llwybr Alys yn Llandudno

Alice Launch 1 - photo by Barbara Smok

Llun: Barbara Smok

Cafodd Llwybr Alys yn Llandudno, un o atyniadau mwyaf poblogaidd y dref, ei ail-lansio yn swyddogol ddoe (19/03/25) wrth i Faer Tref Llandudno a Miss Alys dorri’r rhuban wrth Fwrdd yr Hetiwr Hurt ar ei newydd wedd yn y Fach.

Fe wnaed cyfres o areithiau, cyn i’r gwesteion weld y cerfluniau’n dod yn fyw gyda doniau Magic Light Productions yn darllen o’r nofel yng Nghadair yr Athro.

Mae’r llwybr unigryw yma’n dathlu gwaddol Alice’s Adventures in Wonderland gan Lewis Carroll. Mae rhai cerfluniau wedi cael eu hadnewyddu a cherfluniau newydd wedi’u dadorchuddio hefyd, gan ddod ag egni newydd i’r dref a chynnig profiad bythgofiadwy i ymwelwyr cyfarwydd a rhai newydd.

Cafodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gyllid drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU i adnewyddu a thrwsio cerfluniau poblogaidd Alys yng Ngwlad Hud yn Llandudno.

Dyma oedd gan y Cynghorydd Nigel Smith, Aelod Cabinet Economi Gynaliadwy, i’w ddweud: “Rydyn ni’n falch iawn o groesawu ymwelwyr yn ôl i Lwybr Alys, sydd rŵan yn well nag erioed. Mae’r ail-lansiad yma’n dathlu rhyfeddod campwaith Lewis Carroll a hefyd yn dod â’r gymuned at ei gilydd mewn ffordd sy’n arwydd o harddwch a chreadigrwydd Llandudno. Cyffrous iawn yw gwahodd ymwelwyr newydd a’r hen selogion i ailddarganfod hud byd Alys a’i hanturiaethau yma yn Llandudno.”

Mae gan Landudno ran arbennig wrth wraidd Alice’s Adventures in Wonderland. Fe dreuliodd Lewis Carroll (ffugenw Charles Lutwidge Dodgson) hafau lawer yn y dref, lle cafodd ei ysbrydoli gan y dirwedd arbennig a naws Fictoraidd y lle. Mae Llwybr Alys yn dathlu’r berthynas rhwng yr awdur enwog, y dref a’r Alys yng Ngwlad Hud go iawn oedd yn dod i’r dref glan y môr ar ei gwyliau yn y 1860au.

Yn cyd-fynd â 160 mlwyddiant cyhoeddiad gwreiddiol Alice in Wonderland, mae Llwybr Alys ar ei newydd wedd yn gyfle i ymwelwyr a rhai sy’n hoffi llenyddiaeth ymgolli yn y lleoliadau a ysbrydolodd y stori. Mae 34 pwynt o ddiddordeb ar hyd y llwybr, sy’n gwahodd ymwelwyr i fynd ar eu taith ryfeddol eu hunain o amgylch tref hudolus Llandudno.

Bydd taflen a map newydd ar gyfer Llwybr Alys i dywys ymwelwyr ar hyd y llwybr ar gael i’w prynu fis nesaf o Ganolfan Groeso Llandudno yng Nghanolfan Siopa Fictoria.

 

 

 

Wedi ei bostio ar 20/03/2025

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content