Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Sefydlu Parth Atal Ffliw Adar Cymru Gyfan

Sefydlu Parth Atal Ffliw Adar Cymru Gyfan


Summary (optional)
start content

Sefydlu Parth Atal Ffliw Adar Cymru Gyfan

Poultry owner - small

Dofednod ac adar caeth eraill

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan y bydd y parth atal ffliw adar yn dod i rym o 00:01 ddydd Iau 30 Ionawr a bydd yn parhau ar waith nes bod gostyngiad mewn lefelau risg yn nodi nad oes ei angen mwyach.

Bydd hyn yn golygu y bydd gofyn i bawb sy'n cadw dofednod ac adar caeth eraill, ni waeth beth yw maint yr haid neu sut mae'r adar yn cael eu cadw, gymryd camau priodol ac ymarferol nawr.

Mwy o fanylion yma: https://www.llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-parth-atal-ffliw-adar-cymru-gyfan-3

Bydd angen i bawb sy'n cadw dofednod ac adar caeth eraill gydymffurfio â gofynion y Parth Atal Ffliw Adar. Rhaid i geidwad hefyd barhau i gadw llygad am arwyddion o'r clefyd. Mae Ffliw Adar yn glefyd hysbysadwy, a dylai pobl roi gwybod i’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) drwy ffonio 0300 303 8268 ar unwaith os oes ganddynt unrhyw amheuon.

Bydd gwybodaeth am ofynion y Parth Atal Ffliw Adar, canllawiau a'r datblygiadau diweddaraf ar wefan Llywodraeth Cymru.

Wedi ei bostio ar 29/01/2025

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content