Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Canfasiad blynyddol 2024

Canfasiad blynyddol 2024


Summary (optional)
start content

Canfasiad blynyddol 2024

Peidiwch â cholli eich pleidlais – trigolion ym Mwrdeistref Sirol Conwy yn cael eu hannog i wirio manylion cofrestru pleidleiswyr

Mae trigolion Conwy yn cael eu hannog i wirio eu manylion cofrestru etholiadol neu wynebu’r posibilrwydd o golli eu cyfle i bleidleisio ar benderfyniadau sy’n effeithio arnynt.

Mae'r canfasiad blynyddol yn galluogi Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i gadw'r gofrestr etholiadol yn gyfredol, i ganfod pwy sydd mewn perygl o golli eu llais mewn etholiadau a’u hannog i gofrestru cyn ei bod hi’n rhy hwyr.

Dywedodd Rhun ap Gareth, Swyddog Cofrestru Etholiadol Conwy:

“Cadwch lygad allan am ddiweddariadau pwysig gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Y canfasiad blynyddol yw ein ffordd ni o sicrhau bod y wybodaeth ar y gofrestr etholiadol ar gyfer pob cyfeiriad yn gywir ac yn ddiweddar. Er mwyn gwneud yn siŵr nad ydych yn colli’r cyfle i ddweud eich dweud mewn unrhyw etholiadau sydd ar ddod yng Nghymru, dilynwch y cyfarwyddiadau a anfonwyd atoch.

“Os nad ydych wedi cofrestru ar hyn o bryd, ni fydd eich enw yn ymddangos yn y diweddariadau rydym yn eu hanfon. Os ydych am gofrestru, y ffordd hawsaf yw ar-lein yn www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.” 

Mae’r rheiny sydd wedi symud tŷ yn ddiweddar yn arbennig yn cael eu hannog i wirio eu manylion. Mae ymchwil gan y Comisiwn Etholiadol wedi canfod bod y rhai sydd wedi symud tŷ yn ddiweddar yn llawer llai tebygol o fod wedi'u cofrestru na'r rheiny sydd wedi byw yn yr un cyfeiriad am amser hir. Yng Nghymru, bydd 95% o’r rheiny sydd wedi byw yn eu cartref am 16 mlynedd yn gofrestredig, o gymharu â 53% o bobl sydd wedi byw mewn cyfeiriad am lai na blwyddyn. 

Dywedodd Jackie Killeen, Cyfarwyddwr Gweinyddiaeth a Rheoleiddio Etholiadol:

“Mae'n bwysig iawn bod pawb sy’n gymwys i bleidleisio yn gallu gwneud hynny. Rydym yn annog pobl i gadw llygad am ddiweddariadau gan eu cyngor lleol ar ganfasiad eleni. Gall y cyngor gysylltu â thrigolion drwy’r post neu e-bost. 

“Os nad ydych wedi’ch cofrestru i bleidleisio, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi’r wybodaeth angenrheidiol i’ch cyngor lleol pan ofynnir i chi wneud hynny a chofrestrwch i bleidleisio ar-lein yn www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.” 

Mae gwybodaeth am gofrestru i bleidleisio ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol

Gall trigolion sydd â chwestiynau ynghylch eu statws cofrestru gysylltu â thîm gwasanaethau etholiadol Conwy yn etholiadol@conwy.gov.uk neu (01492) 576051 / 576052.

Wedi ei bostio ar 06/09/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content