Gwyliwch rhag Sgam Cod QR Parcio
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn rhybuddio preswylwyr ac ymwelwyr i fod yn ofalus wrth dalu am barcio er mwyn osgoi cael eu dal gan sgam cod QR ffug.
Daeth gweithredwyr parcio o hyd i godau QR twyllodrus ar beiriannau talu am barcio yn The Parade, Llandudno a Phromenâd Bae Colwyn dros y penwythnos.
Mae’r codau ffug hyn wedi’u dylunio i dwyllo defnyddwyr i ddarparu eu manylion talu ar wefannau ffug. Nid yw ap swyddogol PayByPhone y gall modurwyr eu defnyddio i dalu am barcio o amgylch sir Conwy yn defnyddio codau QR.
Mae’r codau QR yn arwain at wefan ffug sy’n smalio bod yn wefan PayByPhone. Mae sgamwyr yn defnyddio’r gwefannau hyn i ddwyn gwybodaeth talu, a bydd hyn yn aml yn arwain at daliadau mwy twyllodrus o gyfrifon banc modurwyr diniwed.
Mae’r sgam hefyd yn peri risg i fodurwyr gael dirwyon parcio, oherwydd efallai na fyddant yn ymwybodol nad ydynt wedi talu am barcio yn y ffordd gywir.
Gall pobl dalu i barcio ym meysydd parcio’r Cyngor trwy ddefnyddio arian parod, cerdyn, dros y ffôn neu trwy ap PayByPhone. Mae PayByPhone yn ffordd gyfleus o dalu am barcio gan ddefnyddio ffonau clyfar. Ar ôl cofrestru cerbyd, gall defnyddwyr dalu am barcio’n gyflym heb fod angen iddynt gario arian mân. Mae rhagor o wybodaeth ar gael i fodurwyr trwy fynd i’r wefan swyddogol, sef www.paybyphone.co.uk
Bydd Swyddogion Gorfodi Sifil sy’n gweithio i’r Cyngor yn parhau i fonitro peiriannau parcio ar draws y sir gan dynnu unrhyw hysbysiadau diawdurdod. Mae’r Cyngor wedi rhoi gwybod i Heddlu Gogledd Cymru a PayByPhone am y broblem ac maen nhw’n gweithio i ddileu’r wefan dwyllodrus.
Cynghorir unrhyw un sydd wedi dioddef y math hwn o sgam i gysylltu â’u banc i atal mwy o arian rhag cael ei gymryd.
Wedi ei bostio ar 05/08/2024