Gwyliwch rhag sgamiau ffôn
Mae tîm Treth y Cyngor Conwy’n galw ar y cyhoedd i fod yn wyliadwrus o sgamiau dros y ffôn ac mewn negeseuon testun.
Os ydych yn cael galwad ffôn neu neges destun yn honni eich bod yn gymwys am ad-daliad treth y cyngor neu yn holi beth yw band Treth y Cyngor eich eiddo, peidiwch â rhoi eich manylion banc.
Yn yr un modd ag unrhyw alwad ddiwahoddiad, os ydych chi mewn unrhyw amheuaeth, gofynnwch am rif ffôn y galwr a gwirio ei fod o’n un dilys. Ni fydd hyn yn broblem i unrhyw weithiwr proffesiynol.
Mae hi hefyd werth atgoffa perthnasau a ffrindiau hŷn i fod yn ofalus gyda’u manylion personol a’u manylion banc.
Cofiwch y gall preswylwyr Conwy hefyd gael cyngor a chymorth am ddim ynghylch Treth y Cyngor a Budd-daliadau gan y Cyngor trwy ffonio (01492) 576607 neu anfon e-bost at trethycyngor@conwy.gov.uk neu ar-lein ar www.conwy.gov.uk/trethycyngor
Os ydych yn credu eich bod wedi bod yn destun sgam, rhowch wybod i safonau.masnach@conwy.gov.uk
Wedi ei bostio ar 21/07/2023