Bioamrywiaeth yn Sir Conwy
Ni fydd ardaloedd gwelltog yn Sir Conwy, sy’n llawn blodau gwyllt brodorol, yn cael eu torri dros yr haf, er mwyn annog bioamrywiaeth.
Mae gan y Cyngor fwy na 75 ardal o fioamrywiaeth yn Sir Conwy, sy’n cael eu rheoli er lles bywyd gwyllt - mae’r cylchfannau, ymylon ffyrdd ac ardaloedd glaswelltir hyn yn cael eu gadael i dyfu’n fwriadol, a ni fyddant yn cael eu torri nes i’r blodau fwrw’u hadau ar ddiwedd yr haf.
Mae’r ardaloedd glaswelltir yn cael eu rheoli fel ‘dolydd’, ac mae’r glaswellt yn cael ei adael i dyfu’n hir yn y gwanwyn a’r haf, er mwyn atynnu pryfed peillio i’r ardal.
Mae pryfed peillio fel gwenyn, gloÿnnod byw, gwyfynod a chwilod yn prinhau ac maent yn hanfodol i beillio cnydau masnachol a chnydau garddwriaethol, ffrwythau, a blodau gwyllt a gardd. Gall dôl nodweddiadol gefnogi mwy na 1400 o rywogaethau o infertebratau, sy’n cyflenwi bwyd i anifeiliaid megis ystlumod, draenogod, brogaod a llygod y gwair.
Meddai’r Cynghorydd Goronwy Edwards, Aelod Cabinet Isadeiledd, Cludiant a Chyfleusterau Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, “Mae rheoli ein hardaloedd o fioamrywiaeth yn y dull hwn i annog bywyd gwyllt yn bwysig er mwyn cefnogi pryfed peillio i ffynnu, a helpu i gyfrannu at amgylchedd cynaliadwy. Mae 1 mewn 6 rhywogaeth a aseswyd yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu, ac felly mae arnom angen y mannau gwyrdd hyn i’w cefnogi.”
Am ragor o wybodaeth am fioamrywiaeth yn Sir Conwy, ewch i www.conwy.gov.uk/bioamrywiaeth
Wedi ei bostio ar 22/05/2024