Llwybr Celf Newydd Sbon ar gyfer Sir Conwy

Gwaith Celf - Llenwi, Llanrwst
Mae gwaith celf ar raddfa fawr wedi ei osod yn Abergele, Bae Colwyn, Conwy, Llandudno a Llanrwst, gan greu llwybr o amgylch y sir fel rhan o brosiect LLENWI.
Y syniad y tu ôl i LLENWI yw i weithio gyda chymunedau i greu gwaith celf sy’n dathlu beth sy’n gwneud ein trefi yn Sir Conwy yn unigryw.
Ymunodd yr Artist digidol a 3d lleol Livi Wilmore gyda’r artist arwyddion traddodiadol Tomos Jones o Momo Signs a gyda’i gilydd maent wedi gweithio gyda dros 250 o bobl o bob cwr o’r sir i lunio cysyniadau sy’n unigryw i bob cymuned. Daw murluniau Tomos, sydd wedi eu paentio â llaw, yn fyw pan fydd y cod QR yn cael ei sganio gyda ffôn clyfar, gan agor byd ‘realiti estynedig’ digidol Livi sydd wedi ei ysbrydoli gan gyfraniadau’r gymuned.
Mae LLENWI wedi ei ddarparu fel rhan o Creu Conwy, Strategaeth Ddiwylliannol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a gwnaed y prosiect yn bosibl o ganlyniad i gyllid o gynllun Y Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Natalie Hughes, Cydlynydd Rhaglen Creu Conwy,“Fe feddyliodd yr Artistiaid am enw i’r prosiect – ‘LLENWI’ sy’n golygu i feddiannu neu lenwi gofod a dyna beth mae’r prosiect wedi ei wneud yn nhermau dod o hyd i waliau gwag a allai elwa o waith celf sy’n effeithiol ac yn creu canolbwynt sy’n dod yn gyrchfan ynddo’i hun.”
Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Roberts, Aelod Cabinet Diwylliant, Llywodraethu a TG, “Rydym yn gobeithio y bydd yn annog ymwelwyr i archwilio lleoedd newydd a chloddio o dan yr wyneb i ddarganfod mwy am ein diwylliant lleol a’r Gymraeg.”
Dywedodd Livi Wilmore, “Dyma fy mhrosiect mwyaf hyd yma ac mae wedi cyflwyno rhai sialensau ond mae wedi bod yn wych i weithio gyda Tomos a chyfuno ein harddulliau celf sy’n wahanol iawn. Fe ddaethom â bardd rhagorol, Dr Rhys Trimble, i’r prosiect ac mae wedi gweithio gyda ni a’r bobl o’r gymuned i gyfleu ysbryd pob tref gan gyfuno atgofion lleol a thestunau hanesyddol. Fe aethom ati i geisio tynnu’r tameidiau mwy personol gan bobl, i ddangos fod yr holl brofiadau’n ddilys ac yn rhan o’n hanes byw ac o ganlyniad mae pob gosodiad yn gyfan gwbl wahanol. Nid wyf yn siarad Cymraeg yn rhugl ond drwy’r prosiect rwyf wedi mwynhau archwilio a dysgu mwy am yr iaith ac rwy’n gobeithio fod pobl eraill wedi gwneud hynny hefyd.”
Ychwanegodd Tomos Jones, “Roeddwn wedi bod eisiau cydweithio gyda Livi ers amser ac felly pan ddaeth y cyfle hwn roeddwn i wrth fy modd. Mae wedi bod yn wych cael gwybod gan y gymuned beth sy’n bwysig iddynt ac yna gweithio gyda Livi a Rhys ar y cysyniadau. Mae wir wedi bod yn llafur cariad ond rwy’n falch iawn o’r hyn sydd wedi ei gyflawni ac rwy’n gobeithio y bydd pobl leol ac ymwelwyr yn mwynhau’r gwaith celf.”
Gallwch ddarganfod mwy a lawrlwytho map y llwybr yn: Diwylliant Conwy | Creu Conwy LLENWI)
Wedi ei bostio ar 04/04/2025