Planhigfa a Chaffi Bryn Euryn – Oriau Agor Estynedig dros y Nadolig
Torch côn pinwydd
Bydd Planhigfa, Caffi a Siop Bryn Euryn yn Llandrillo-yn-Rhos ar agor i’r cyhoedd ar ddyddiau Sadwrn rhwng 9.30am a 4pm tan 21 Rhagfyr, yn ogystal â’r oriau arferol o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Bydd torchau o ansawdd uchel ac addurniadau bwrdd ar gael i unrhyw un sy’n chwilio am anrhegion Nadolig neu addurniadau yn ogystal ag amrywiaeth o dlysau Nadolig a phlanhigion y gaeaf. Mae’r Blanhigfa hefyd yn stocio coed Nadolig go iawn.
Mae eitemau ar gael i'w harchebu ymlaen llaw neu i'w prynu'n uniongyrchol o'r Blanhigfa. Mae gwasanaeth dosbarthu ar gael.
Bydd y caffi ar agor hefyd, yn gweini cinio, bisgedi a chacennau cartref.
Mae Planhigfa Bryn Euryn yn cael ei rhedeg trwy Wasanaeth Anableddau Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Mae’r prosiect hwn wedi ei ariannu yn rhannol gan Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Planhigfa a Chaffi Bryn Euryn - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Wedi ei bostio ar 04/12/2024