Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Cyllideb 2025/26 – Cymerwch ran

Cyllideb 2025/26 – Cymerwch ran


Summary (optional)
start content

Cyllideb 2025/26 – Cymerwch ran

Budget icon

Cyllideb 2025-2026

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn estyn gwahoddiad i breswylwyr gymryd rhan yn yr arolwg ar Gyllideb 2025/26.

Mae cynghorau ar hyd a lled y DU yn parhau i wynebu costau cynyddol a mwy o alw am wasanaethau. Er mwyn parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol, gan gynnwys casglu gwastraff, addysg, gofal cymdeithasol, llyfrgelloedd, theatrau a chanolfannau hamdden, bydd angen i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy edrych ar gau’r bwlch yn y gyllideb yn 2025/26. 

Er mwyn rheoli'r her hon, mae’n rhaid i’r Cyngor wneud pob ymdrech i ddefnyddio ei adnoddau'n effeithlon, a gallai hynny olygu lleihau faint o wasanaethau sy’n cael eu darparu.  

Meddai’r Cynghorydd Charlie McCoubrey, Arweinydd y Cyngor: “Mae’r sefyllfa’n parhau i fod yn anodd i Awdurdodau Lleol yn y DU, ac yr un yw’r pwysau yng Nghonwy. 

“Mae eich adborth yn bwysig iawn wrth lunio’r gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, i gyd-fynd â blaenoriaethau ein cymunedau.

“Unwaith eto, hoffwn annog pawb sy’n byw neu’n gweithio yng Nghonwy i gael golwg ar y wybodaeth yr ydym wedi’i rhoi at ei gilydd am y sefyllfa ariannol, a rhoi gwybod i ni pa wasanaethau sydd bwysicaf i chi a’ch cymuned leol.”

Gellir dod o hyd i’r manylion llawn a’r arolwg ar wefan Conwy: www.conwy.gov.uk/cyllideb2025

Os nad oes gennych chi fynediad at y rhyngrwyd, gallwch gael copi papur yng Nghoed Pella neu yn eich llyfrgell leol.

Cyflwynwch eich adborth erbyn 17 Ionawr 2025.

Bydd y canlyniadau’n cael eu cyflwyno i gynghorwyr fis nesaf a byddant yn llywio’u trafodaethau ar osod y gyllideb.

Wedi ei bostio ar 17/12/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content