Bwi yn golchi i'r lan ar ôl storm
Mae tîm yr harbwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, wedi achub bwi coll ar ôl Storm Perrick, ac mae o rŵan ar ei ffordd yn ôl i’r môr.
Fel rheol mae bwi sianel fordwyo Conwy i’w ganfod yng nghanol Bae Conwy, i nodi cychwyn sianel ddynesu Harbwr Conwy. Mae’n pwyso 1.5 tunnell ac wedi’i osod gyda phwysau mawr i’w helpu i wrthsefyll tywydd garw ar y môr.
Yn ystod y stormydd diweddar torrodd un o’r gefynnau, ac fe gafodd ei olchi i’r lan gan y gwynt a’r llanw.
Cafodd y bwi ei ddiogelu dros nos gan dîm yr Harbwr, ac yna pan oedd y môr ar drai fe gafodd ei winsio o’r traeth yn Nwygyfylchi.
Mae’r bwi erbyn hyn wedi’i drwsio ac yn mynd yn ôl allan yr wythnos hon i gael ei angori i wely’r môr.
Mae tîm yr Harbwr yn gwirio’r bwiau bob blwyddyn i geisio osgoi unrhyw broblemau efo’r angori.
Wedi ei bostio ar 26/04/2024