Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Annog busnesau sy'n cyflogi pobl ifanc yn eu harddegau i gadw at y rheolau

Annog busnesau sy'n cyflogi pobl ifanc yn eu harddegau i gadw at y rheolau


Summary (optional)
start content

Annog busnesau sy'n cyflogi pobl ifanc yn eu harddegau i gadw at y rheolau

Atgoffir busnesau yng Nghonwy i roi mesurau ar waith i ddiogelu gweithwyr sy’n eu harddegau (rhwng 13 a 16 oed).

Mae’n gyfreithlon i fusnesau gyflogi plant o 13 oed, ond mae busnesau angen trwydded waith ar gyfer pob plentyn sy’n cael eu cyflogi ganddynt.

Mae’n rhaid i fusnesau sicrhau bod asesiadau risg wedi’u diweddaru, eu llofnodi gan riant neu warchodwr pob plentyn sy’n cael eu cyflogi ganddynt a bod dyddiad ar yr asesiad risg.

Mae cael swydd ar y penwythnos neu’r gwyliau fel rhywun yn eu harddegau yn rhan o’r daith o fod yn blentyn i oedolyn, mae’n braf cael eich arian eich hun a rhywfaint o annibyniaeth.   Ond, mae’n bwysig bod busnesau yn gwybod bod yn rhaid cymryd camau ychwanegol i ddiogelu eu lles.

Os ydych chi’n cyflogi plentyn rhwng 13 a 16 oed, mae’n rhaid gwneud cais am drwydded.  Mae’r manylion llawn ar wefan Conwy:  Trwydded Cyflogi Plant- Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Gallai unrhyw gyflogwyr sy’n methu â chyflwyno cais am drwydded waith ar gyfer unrhyw blant sy’n cael eu cyflogi ganddynt wynebu erlyniad, a dirwy o hyd at £1,000.

Hefyd nid yw plant sy’n gweithio heb drwydded ddilys yn cael eu cynnwys yn yswiriant y gweithle.

Mae’r rheolau’n berthnasol i waith am dâl a di-dâl.

I wneud cais ar-lein:  Trwydded Cyflogi Plant- Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Wedi ei bostio ar 14/06/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content