Aelod Cabinet yn annog preswylwyr hŷn i hawlio Credyd Pensiwn
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn annog preswylwyr hŷn ar hyd a lled y sir i gofrestru i hawlio Credyd Pensiwn gan y llywodraeth - gwerth hyd at £3,900 y flwyddyn.
Mae Credyd Pensiwn yn rhoi arian ychwanegol i bobl i helpu gyda’u costau byw os ydynt dros oed Pensiwn y Wladwriaeth ac yn byw ar incwm isel, a gall roi mynediad at ystod o fuddion eraill hefyd.
Rhwng dydd Llun 2 Medi a dydd Gwener 6 Medi, mae’n Wythnos Gweithredu Credyd Pensiwn ac mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn atgoffa preswylwyr 66 oed a hŷn y dylent wirio a ydynt yn gymwys ac yna ymgeisio am Gredyd Pensiwn. Gallant gael Taliad Tanwydd y Gaeaf a chefnogaeth megis cymorth â chostau tai, Treth y Cyngor a thrwydded deledu am ddim i rai 75 oed a hŷn.
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Smith, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Refeniw a Budd-daliadau: “Mae arnom eisiau codi ymwybyddiaeth am Gredyd Pensiwn fel nad yw pobl yn colli’r cyfle. Mae’r arian yno i helpu pobl sydd â’r angen mwyaf. Byddwn yn annog pawb dros oed pensiwn i wneud cais am gefnogaeth.
“Rwyf hefyd eisiau gofyn i ffrindiau a theulu annog eu hanwyliaid i ymgeisio.”
Os oes arnoch angen help i wneud cais, gall Tîm Hawliau Lles Conwy gynnig gwiriadau am ddim i weld os ydych yn gymwys a gallant eich helpu i lenwi’r ffurflenni. Ffoniwch nhw ar 01492 576605.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Gredyd Pensiwn yn https://www.gov.uk/credyd-pensiwn
Amcangyfrifir bod hyd at 880,000 o aelwydydd yn methu allan ar Gredyd Pensiwn a’i fod yn werth £3,900 y flwyddyn ar gyfartaledd, gan roi buddion ychwanegol megis cymorth gyda Threth y Cyngor a Budd-dal Tai a thrwydded deledu am ddim i rai dros 75 oed. Gallai codi ymwybyddiaeth am Gredyd Pensiwn wneud gwahaniaeth i fywyd unigolyn hŷn: www.gov.uk/credyd-pensiwn
Wedi ei bostio ar 02/09/2024