Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Car park improvements: Llanfairfechan promenade

Gwelliannau maes parcio: Promenâd Llanfairfechan


Summary (optional)
start content

Gwelliannau maes parcio: Promenâd Llanfairfechan

Gwaith yn dechrau:  Dydd Llun 9 Medi 2024

Gwaith yn dod i ben: diwedd mis Tachwedd (yn dibynnu ar y tywydd)

Rydym yn ailwampio maes parcio’r promenâd, gan gynnwys gwella draenio, ailwynebu a phaentio llinellau, a gosod mannau gwefru cerbydau trydan.

Bydd ein contractwyr yn gweithio rhwng 8am a 4.30pm (3.30pm ar ddyddiau Gwener), yn ystod yr wythnos yn unig.

Mae angen lle ar ein contractwyr i weithio. Bydd maes parcio’r promenâd ar gau yn llwyr ar rai adegau yn ystod y gwaith – pan fydd yn bosibl, bydd nifer gyfyngedig o fannau parcio ar gael.

Bydd maes parcio Station Road yn cael ei ddefnyddio fel safle gwaith i storio deunyddiau.Mae hyn yn golygu y bydd rhan o faes parcio Station Road ar gau. Ni fydd rhan o’r ffordd gyferbyn â mynedfa’r maes parcio ar gael i barcio arni, er mwyn rhoi lle i gerbydau gwaith allu troi.

Bydd mynediad ar gael i breswylwyr Station Road ddefnyddio eu biniau cymunedol ac i breswylwyr Mona View, Plas Gwyn a Menai Bank.

Os oes gennych chi gerbyd yn un o’r meysydd parcio, a fyddech cystal â’i symud erbyn 8am, ddydd Llun 9 Medi er mwyn i’r contractwr allu paratoi.

Bydd mynediad ar gael i fusnesau lleol ac ar hyd y promenâd i’r ddau gyfeiriad.

Os oes gennych gwestiynau am y safle neu’r gwaith, ffoniwch Gerallt Hughes (Rheolwr Prosiect) yn MWT Civil Engineering ar 01492 330770.

Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch chi am y prosiect, cysylltwch â Thîm Cynghori Adran yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau ar affch@conwy.gov.uk neu ffoniwch 01492 575337.

Diolch i chi am eich amynedd wrth i ni wneud y gwaith gwella hwn.

Wedi ei bostio ar 02/09/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content