Newidiadau i doiledau cyhoeddus yn Sir Conwy
***DIWEDDARIAD*** Mae’r newidiadau hyn yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd. Bydd y toiledau cyhoeddus yn aros ar agor am gyfnod dros dro.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cyhoeddi newidiadau i wasanaethau toiledau cyhoeddus, gyda rhai toiledau’n cau tra bod eraill mewn adeiladau’r Cyngor yn cael eu gwneud ar gael i’r cyhoedd.
Bydd 21 o gyfleusterau toiledau cyhoeddus yn parhau ar agor ar draws y sir, rhai ar sail dymhorol o’r Pasg tan wythnos gyntaf mis Medi. Tra bydd 19 o doiledau mewn adeiladau Cyngor ar gael i bawb eu defnyddio, ynghyd â thoiledau mewn busnesau sydd wedi cofrestru ar gyfer Cynllun Toiledau Cymunedol y Cyngor.
Meddai’r Cyng. Goronwy Edwards, Aelod Cabinet Isadeiledd, Cludiant a Chyfleusterau: “Mae’n rhaid i bob gwasanaeth yn y Cyngor ganfod arbedion ariannol sylweddol ar gyfer 2024/25. Fel rhan o hyn, rydym wedi adolygu’r dewisiadau ar gyfer toiledau cyhoeddus. Nid oes gennym bellach y gyllideb i gymorthdalu toiledau cyhoeddus, felly rhaid i ni ddigolledu holl gostau rhedeg o gyfleusterau a delir amdanynt.
“Mae cau toiledau yn benderfyniad anodd i ni. Rydym wedi ystyried pa mor aml mae’r cyfleusterau’n cael eu defnyddio, ymhle mae’r toiledau eraill sydd ar gael gerllaw, a pha mor aml mae’r cyfleusterau’n cael eu fandaleiddio a’r costau atgyweirio parhaus.”
Mae’r rhestr o 20 o doiledau sydd yn cau ar 4 Medi 2024 yn cynnwys nifer nad ydynt eisoes ar gael i’r cyhoedd yn sgil fandaliaeth barhaus, megis Ffordd Maelgwyn yng Nghyffordd Llandudno ac Ivy Street ym Mae Colwyn.
O Orffennaf, bydd y cyhoedd yn gallu defnyddio cyfleusterau toiledau yn adeiladau’r Cyngor, megis swyddfeydd, canolfannau hamdden a llyfrgelloedd, hyd yn oed os nad ydynt yn defnyddio gwasanaethau eraill yn yr adeilad.
Mae toiledau eraill ar gael trwy Gynllun Toiledau Cymunedol y Cyngor, lle mae busnesau cymeradwy yn caniatáu'r cyhoedd i ddefnyddio eu cyfleusterau heb orfod prynu dim.
Hefyd mae 4 o doiledau cyhoeddus sy’n cael eu rhedeg gan Gynghorau Tref a Chymuned, ym Mhenmachno, Dolwyddelan, Llansannan a Llangernyw, sydd heb gael eu heffeithio gan y newidiadau hyn. Yn ogystal, mae Cyngor Tref Abergele, Cyngor Tref Conwy, Cyngor Cymuned Llanfair TH a Chyngor Cymuned Trefriw yn darparu nawdd tuag at gadw’r toiledau ar agor yn eu hardaloedd.
Cwestiynau Cyffredin: Toiledau cyhoeddus - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Rhestr o doiledau cyhoeddus yn Sir Conwy: Rhestr o doiledau cyhoeddus yn Sir Conwy - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Wedi ei bostio ar 24/07/2024