Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Coastal Defence Work Begins at Llandudno's North Shore

Gwaith Amddiffynfeydd Arfordirol yn Dechrau yn Nhraeth y Gogledd Llandudno


Summary (optional)
start content

Gwaith Amddiffynfeydd Arfordirol yn Dechrau yn Nhraeth y Gogledd Llandudno

Mae’r gwaith ar wella’r amddiffynfeydd arfordirol yn Nhraeth y Gogledd, Llandudno, ger y pwll padlo a’r orsaf RNLI yn dechrau’r wythnos hon.

Mae’r gwaith, sy’n canolbwyntio ar wella’r amddiffynfeydd presennol ac ychwanegu rhannau newydd o amddiffynfeydd, yn rhan o gynllun ehangach ar gyfer y dref, a ddechreuodd ym Mhenmorfa ym mis Gorffennaf eleni.

Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae’r cynllun yn mynd i’r afael â pherygl llifogydd presennol y dref.  Mae gwaith modelu arfordirol yn dangos fod hyd at 4,982 o eiddo preswyl a 1,056 o eiddo masnachol yn Llandudno mewn perygl o lifogydd arfordirol yn y 50 mlynedd nesaf.

Yn Nhraeth y Gogledd, bydd contractwyr yn atgyweirio ac amnewid y llifddorau ac ychwanegu llifddorau newydd ar draws y fynedfa i orsaf bad achub RNLI. Bydd wal newydd tu ôl i’r pwll padlo yn disodli’r cadwyni a bolardiau concrid presennol, gyda morglawdd newydd ychwanegol ar hyd cefn y llwybr troed i’r dwyrain o’r orsaf bad achub.

Yn ystod y gwaith, bydd llwybr troed y traeth a’r mannau parcio ar gau ar ochr y môr ar Ffordd Colwyn, ger yr RNLI a Lôn Ffynnon Sadwrn. Disgwylir i’r gwaith hwn ddod i ben cyn Pasg 2025.

Meddai’r Cyng. Goronwy Edwards, Aelod Cabinet yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau - Isadeiledd: “Mae’r cynllun amddiffynfeydd arfordirol yn cynnwys gwelliannau yn Nhraeth y Gogledd a Phenmorfa. Rydym yn gwella’r system amddiffynfeydd presennol mewn mannau gwan hysbys, ac yn mynd i’r afael â’r perygl o’r amddiffynfeydd presennol yn cael eu difrodi  yn ystod stormydd. Bydd hyn yn darparu safon fwy dibynadwy a chyson o amddiffyniad ar gyfer Llandudno, gyda phreswylwyr a busnesau yn elwa o’r buddsoddiad i leihau’r perygl o lifogydd.”

Wedi ei bostio ar 25/09/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content