Lansio Cronfa Allweddol Adfywio Cymunedol
Mae Cronfa Allweddol Adfywio Cymunedol Conwy Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU bellach ar agor a gwahoddir ceisiadau gan sefydliadau cymunedol.
Hoffai Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy dderbyn ceisiadau gan sefydliadau cymunedol sy’n awyddus i ddarparu prosiectau ar draws Conwy a fydd yn mynd i’r afael ag anghenion lleol ac yn cyfrannu at ddatblygu balchder mewn lle a gwneud gwahaniaeth gweledol.
Mae dwy elfen o’r Gronfa Allweddol:
- Cronfa ar gyfer prosiectau bach Cynghorau Tref a Chymuned a fydd yn gwneud gwahaniaeth gweledol yn yr ardal leol.
- Cronfa grantiau cystadleuol ar gyfer prosiectau rhwng £10,000 a £249,999 (gan asesu prosiectau llai fesul achos).
Mae cyfanswm o £3 miliwn i’w ddyrannu. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm ar 22 Medi 2023.
Meddai’r Cyng. Charlie McCoubrey, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy: “Rwy’n falch iawn bod y gronfa allweddol bellach ar agor ar gyfer ceisiadau am brosiectau llai. Bydd hyn yn helpu i sicrhau fod cyllid yn cael ei ddosbarthu ar draws y sir a bod cymunedau lleol yn elwa o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.”
“A thrwy ddyrannu swm penodol o’r gronfa allweddol gyffredinol yn arbennig ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned, gallwn sicrhau fod bob ardal o’r sir yn elwa o’r cyllid.”
“Mae hwn yn alwad agored am brosiectau yn Sir Conwy, ac rwy’n erfyn ar sefydliadau cymunedol i gyflwyno eu ceisiadau cyn gynted â phosibl.”
Gellir cael mynediad at y canllawiau llawn a’r porth ymgeisio ar: Cronfa Allweddol Adfywio Cymunedol - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog o raglen Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ac yn darparu £2.6 biliwn o arian ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn Mawrth 2025. Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy’n gweithio gydag awdurdodau lleol eraill yng Ngogledd Cymru i weinyddu a rheoli rhaglen Cronfa Ffyniant a Rennir y DU yn rhanbarthol.
Fodd bynnag, caiff penderfyniadau ynghylch pa brosiectau y dyrennir cyllid ar eu cyfer eu gweinyddu’n lleol.
Gwahoddir ceisiadau ar gyfer Cronfa Allweddol Adfywio Cymunedol Conwy gan:
- Cynghorau Tref / Cymuned
- Grwpiau a Chymdeithasau Cymunedol
- Cymdeithasau Chwaraeon
- Cyrff cyhoeddus, yn cynnwys yr Awdurdod Lleol
- Sefydliadau’r trydydd sector
- Elusennau Cofrestredig
- Mentrau Cymdeithasol
- Cydweithfeydd
- Cwmnïau cymdeithasol
- Mentrau cymunedol
- Cwmnïau preifat nid-er-elw
- Cwmnïau cyfyngedig drwy warant
- Cwmnïau budd cymunedol ac ymddiriedolaethau datblygu
- Prifysgol / Coleg
- Ysgolion
- Eglwysi / Capeli
Wedi ei bostio ar 03/08/2023