Safonau Llyfrgelloedd Conwy wedi'u Hasesu
Llyfrgell Llanrwst
Mae Aelod Cabinet dros Ddiwylliant Conwy wedi canmol Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth y Sir am ei berfformiad wrth wynebu hinsawdd ariannol heriol, yn dilyn asesiad Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2023-24.
Mae Llywodraeth Cymru yn monitro cydymffurfiaeth â dyletswydd statudol Cynghorau i ddarparu llyfrgelloedd drwy Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru. Mae’r Adroddiad Blynyddol ar gyfer Llyfrgelloedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi’i gyhoeddi a bydd yn cael ei gyflwyno i gyfarfod Cabinet ar 28 Ionawr.
Mae'r Adroddiad yn dangos bod Conwy yn bodloni pob un o'r 12 Hawl Craidd yn llawn. Yn ogystal, o'r saith Dangosydd Ansawdd sydd â thargedau, cyflawnodd y Gwasanaeth Llyfrgell chwech yn llawn ac un, mewn perthynas â staffio, yn rhannol.
Mae’r Gwasanaeth Llyfrgell wedi dangos sut mae’n bodloni Dangosydd Ansawdd Cefnogi Iechyd a Lles trwy ei bartneriaethau gyda Mind a thîm Gofal Cymdeithasol y Cyngor, a thrwy’r rhwydwaith oed-gyfeillgar i godi ymwybyddiaeth o Ddarllen yn Dda ar gyfer Iechyd Meddwl (Llyfrau ar Bresgripsiwn). Mae staff llyfrgelloedd yn cael eu hyfforddi i gyflwyno sesiynau Ffrindiau Darllen a Darllen ar y Cyd i gwsmeriaid, ac mae cefnogaeth a rhyngweithio gwerthfawr yn cael ei ddarparu i'r gymuned trwy'r sesiynau hyn.
Cafodd sesiynau amser stori yn y llyfrgell, grwpiau darllen, grwpiau Darllen ar y Cyd, a Ffrindiau Darllen, sesiynau crefft a stori tymhorol, a sesiynau cymorth digidol i gyd eu hamlygu er mwyn dangos sut mae'r gwasanaeth yn darparu Digwyddiadau a Gweithgareddau i ddefnyddwyr ag anghenion arbennig.
Cyflawnwyd y dangosydd a oedd yn ymwneud â lefelau staffio yn rhannol. Mewn cyfnod o bwysau cynyddol ar gyllidebau’r Cyngor, fel llawer o wasanaethau eraill y cyngor, mae adnoddau wedi gorfod lleihau ac mae Llyfrgelloedd wedi gorfod gwneud toriadau.
Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Diwylliant, Llywodraethu a TG, “Mae Datganiad Blynyddol Safonau Llyfrgell Cyhoeddus Cymru 2023-24, yn dystiolaeth o ymrwymiad Gwasanaeth Llyfrgell Conwy i berfformio ymhell uwchlaw canolrif Cymru ar sawl meincnod. Hoffwn ddiolch i staff ein llyfrgelloedd am ddarparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid, a chanmol eu huchelgais a’u hymrwymiad i gyflawni’r safonau uchel hyn o ran darpariaeth llyfrgelloedd a gwybodaeth er y gostyngiad mewn adnoddau a’r heriau a fu eleni yn enwedig o ystyried yr adolygiad o’r oriau agor a’r gostyngiad yn nifer y staff yn y tîm”.
Caiff yr adroddiad ei gyflwyno i’r Cabinet yn y cyfarfod ar 28 Ionawr Democratiaeth Leol Conwy : Rhaglen ar gyfer y Cabinet ddydd Mawrth, 28 Ionawr 2025, 2.00 pm
Wedi ei bostio ar 27/01/2025