Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Staff Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn casglu dros £2,700 ar gyfer MIND

Conwy County Borough Council Staff Raise over £2,700 for MIND


Summary (optional)
start content

Conwy County Borough Council Staff Raise over £2,700 for MIND

Llwyddodd tîm ymroddedig o staff Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i gwblhau Her Tri Chopa Arfordir Conwy i gefnogi elusen iechyd meddwl MIND.  Gan ddechrau yn nhref Conwy aeth y grŵp i fyny Mynydd y Dref (801 troedfedd) cyn cerdded i Landudno ac i fyny’r Gogarth (659 troedfedd). Roedd rhan olaf y daith yn mynd â nhw ar hyd promenâd Llandudno ac i fyny i gopa Trwyn y Fuwch (463 troedfedd). Cerddwyd cyfanswm o 15 milltir yn ystod y daith ac esgyniad o bron i 2,000 troedfedd! 

Dan arweiniad Katie Clubb, Pennaeth y Gwasanaeth Tai Strategol a’r Cyng. Emily Owen, Aelod Cabinet Tai, Digartrefedd a Newid Gwasanaeth, roedd 17 o aelodau staff y Gwasanaethau Tai ac Adrannau eraill o’r Cyngor yn awyddus i gefnogi Mind Conwy gan eu bod yn cydnabod y cysylltiad rhwng digartrefedd ac iechyd meddwl a phwysigrwydd cefnogaeth iechyd meddwl yn ein cymunedau.  Gyda chefnogaeth hael ffrindiau, teulu a chydweithwyr, llwyddodd y tîm i godi dros £2,734.75 ar gyfer MIND Conwy.  

“Rwy’n hynod o falch o’r tîm.  Maent wedi dangos penderfyniad ac ymrwymiad gwirioneddol drwy roi o’u hamser i gymryd rhan yn yr her hon,” meddai Katie Clubb, “roedd yn wych gweld pawb yn dod allan i gadw’n heini drwy ymarfer ar gyfer y daith.   Roedd yn ymwneud â helpu eraill yn ogystal â chefnogi lles o fewn y tîm.  Mae nifer o’r aelodau wedi cwrdd a dod i adnabod pobl newydd.” 

Meddai’r Cyng Emily Owen, “Nid yw iechyd meddwl yn gwahaniaethu; gallai effeithio ar unrhyw un ar unrhyw adeg. Mae Mind yn gwneud gwaith arbennig i gefnogi pobl mewn angen ac mae ymrwymiad y tîm i godi ymwybyddiaeth a chasglu arian ar gyfer Mind yn ysbrydoliaeth i ni gyd, ac yn amlygu trugaredd ein staff yng Nghyngor Conwy a’n cymuned gyfan.” 

Bydd yr arian yma’n mynd yn uniongyrchol i MIND, gan helpu’r elusen i barhau â’i gwaith hanfodol a darparu gwasanaethau cymorth, eirioli ac addysg ar iechyd meddwl.

Da iawn bawb.

Os hoffech chi glywed mwy am MIND, ymwelwch â’u gwefan yma Cartref - Mind Conwy (conwymind.org.uk)

Wedi ei bostio ar 19/07/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content