Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn dadorchuddio trac athletau ar ei newydd wedd ym Mae Colwyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn dadorchuddio trac athletau ar ei newydd wedd ym Mae Colwyn


Summary (optional)
start content

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn dadorchuddio trac athletau ar ei newydd wedd ym Mae Colwyn

Mae gwaith adnewyddu gwerth £330,000 ar drac athletau Stadiwm CSM ym Mharc Eirias wedi’i gwblhau diolch i Grant Cronfa Allweddol y Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Dros y 10 wythnos ddiwethaf, mae’r trac rhedeg wedi cael wyneb hollol newydd, gan gynnwys is-strwythur a haen uchaf newydd. Mae mannau neidio’r trac, gan gynnwys y pwll traws gwlad, hefyd wedi cael eu hadnewyddu. Mae’r trac ar gael i holl aelodau Ffit Conwy ac mae’n bosib ei archebu ochr yn ochr â’r amrywiaeth eang o gyfarpar a chyfleusterau sydd ar gael. 

Fel mae Mally Tidswell, Prif Reolwr Hamdden Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn egluro, “Mae trac rhedeg Eirias yn ased cymunedol allweddol a ddefnyddir yn helaeth gan ysgolion a chlybiau athletau. Roedd yn hen bryd buddsoddi ynddo ac rwy’n falch iawn bod y gwaith hwn wedi cael ei gwblhau.

“Roedd hi mor bwysig gwneud y gwaith hwn, ac rwy’n hynod falch bod ei ddyfodol bellach yn ddiogel.”

Meddai James Williams, Prif Swyddog Gweithredol Athletau Cymru: “Mae Stadiwm CSM ym Mharc Eirias yn gyfleuster allweddol yn y rhanbarth, ac yn un sydd wedi chwarae rhan allweddol yn natblygiad y gamp ar draws Gogledd Cymru yn hanesyddol. Mae’n wych gweld y buddsoddiad hwn sy’n diogelu’r cyfleuster o safbwynt athletau ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

“Gobeithio bydd y cyfleuster ar ei newydd wedd yn sbardun ar gyfer twf pellach mewn cyfleoedd ar gyfer gweithgarwch corfforol a llythrennedd corfforol i bobl ifanc ledled y rhanbarth. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at gael gweld cystadlaethau athletau trwyddedig yn dychwelyd i Stadiwm CSM yn y blynyddoedd i ddod.”

Meddai’r Cynghorydd Charlie McCoubrey, Arweinydd y Cyngor: “Rwy’n falch iawn bod y gwaith yma’n golygu y bydd y trac bellach yn cynnig cyfleuster gwych i gyd-fynd â’r amrywiaeth eang o adnoddau chwaraeon a ffitrwydd sydd ar gael i’r cyhoedd yn Eirias.

“Mae’r trac hwn yn adnodd lleol, rhanbarthol a chenedlaethol sy’n darparu ar gyfer athletwyr unigol, ysgolion a chystadlaethau clybiau, ac ar gael i’r gymuned, i ddatblygu chwaraeon ac ar gyfer athletau cystadleuol.”

Gwnaed y gwaith adnewyddu gan Hunts Contractors Ltd. 

Ymgynghorwyr caeau chwaraeon: Surfacing Standards Ltd.

Wedi ei bostio ar 24/09/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content