Adran Arlwyo Addysg Conwy yn ennill Gwobr ar gyfer Menter Bwyd Mewn Ysgolion Llywodraeth Cymru
Mae Adran Arlwyo Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ennill gwobr fawreddog ‘Cydnabyddiaeth o Ragoriaeth’ LACA (Local Authority Caterers Association) a noddwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae’r wobr hon ar gyfer cyflwyno menter Bwyd mewn Ysgolion Llywodraeth Cymru.
Nod gwobrau LACA yw cydnabod unigolion a thimau sy’n parhau i wneud gwahaniaeth go iawn i wasanaethau arlwyo addysg.
Yn 2022, cyflwynodd Llywodraeth Cymru’r fenter Prydau Ysgol am Ddim i holl blant Ysgolion Cynradd, gyda tharged i bob plentyn yn ein hysgolion cynradd gael prydau ysgol am ddim erbyn mis Ebrill 2024.
Ers mis Medi 2023, saith mis o flaen y dyddiad targed, mae pob plentyn yn ein hysgolion cynradd wedi cael cynnig prydau ysgol am ddim.
I gyflawni hyn roedd yn rhaid uwchraddio pob cegin ysgol. O osod poptai cyfun mwy, oergelloedd a rhewgelloedd mwy, trawsnewid o nwy i drydan, i osod ceginau newydd sbon. Roedd cyfanswm y buddsoddiad mewn ceginau ysgol bron yn £2 filiwn.
Yn ogystal, mae pob cegin ysgol a reolir gan yr Adran Arlwyo Addysg bellach yn ddi-bapur. Mae Wi-Fi wedi’i osod ym mhob cegin ysgol, felly maen nhw’n gallu nodi sawl pryd gaiff ei weini, cynhyrchu taflenni amser, anfon ceisiadau am waith trwsio a chyfathrebu’n uniongyrchol â’r Gwasanaethau Addysg.
Meddai’r Cyng. Julie Fallon, Aelod Cabinet Addysg Conwy: “Dwi’n fach iawn o gyflawniad gwych ein tîm arlwyo ymroddgar a gweithgar. Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi bod yn rhan o hyn.
“Ar hyd a lled Conwy mae miloedd o brydau yn cael eu darparu i’n plant pob diwrnod ysgol. Mae’n braf gweld y tîm yn cael ei gydnabod am ei ymroddiad i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl. Dylai bod pawb yn falch iawn o’r hyn maen nhw’n ei wneud, ac mae’r wobr hon yn cydnabod hynny.”
Wedi ei bostio ar 09/02/2024