Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Canolbwynt Cyflogaeth Conwy yn gweithio mewn partneriaeth â TRAC i newid bywydau plant yn eu harddegau

Canolbwynt Cyflogaeth Conwy yn gweithio mewn partneriaeth â TRAC i newid bywydau plant yn eu harddegau


Summary (optional)
start content

Canolbwynt Cyflogaeth Conwy yn gweithio mewn partneriaeth â TRAC i newid bywydau plant yn eu harddegau

Gofynnodd prosiect TRAC i Ganolbwynt Cyflogaeth Conwy helpu 15 o blant yn eu harddegau o Ysgol Dyffryn Conwy i newid eu bywydau gyda chwrs hyfforddiant pwrpasol a fyddai’n datblygu sgiliau gydol oes wrth ddarparu llwybr clir at hyfforddiant a chyflogaeth pellach.

Roedd y grŵp o 15 rhwng 15 a 16 oed ac er eu bod i gyd wedi mynychu’r ysgol, nid oeddent wedi bod yn ymgysylltu â gwersi. Pan ddaeth hyn i sylw Elliw Jones, gweithiwr lles TRAC yr ysgol, roedd hi’n gwybod bod angen ymyrraeth er mwyn galluogi’r grŵp i gaffael y sgiliau angenrheidiol i allu dilyn eu gyrfa ddelfrydol.

Dywed Elliw ei stori; “Mae camdybiaeth am ddisgyblion ysgol nad ydynt yn mynychu eu gwersi, mae llawer yn meddwl eu bod yn ddiog neu eu bod yn gwneud drygioni, ond dydi hynny ddim yn wir o gwbl am y grŵp o 15 yma.  Daw pob un o gymunedau gwledig ac maen nhw’n byw bywyd amaethyddol. Mae hyn yn golygu eu bod yn gweithio’n galed iawn, gan godi am 5am bob bore i weithio ar y fferm cyn mynd i’r ysgol, a dychwelyd i’r fferm i barhau i weithio cyn gynted ag mae’r ysgol wedi gorffen. Felly roedd hi’n bwysig canfod pam eu bod yn methu dosbarthiadau, a’r rheswm syml oedd mai gweithio ar fferm oedd eu ffordd o fyw, a bod hyn yn bwysicach iddynt na chael addysg.”

Roedd Elliw yn gwybod bod Canolbwynt Cyflogaeth Conwy wedi sicrhau cyllid trwy Gronfa Allweddol Pobl a Sgiliau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU Conwy i redeg Prosiect Ymgysylltu Cyflogadwyedd Pobl Ifanc felly cysylltodd â Lyndsay Edwards, Swyddog Ymgysylltu’r Canolbwynt i weld a allen nhw gydweithio ar raglen a fyddai’n darparu’r sgiliau a chymwysterau angenrheidiol i’r 15 hyn.

Lluniodd Canolbwynt Cyflogaeth Conwy bartneriaeth â WOW Training i ddarparu cwrs Adeiladu pwrpasol yn Llyfrgell Llanrwst i’r grŵp.  Cwrs tridiau dwys oedd hwn i roi dealltwriaeth iddynt o’r hyn sydd ei angen er mwyn gweithio yn y diwydiant yn ogystal â sefyll profion mewn Ymwybyddiaeth o Asbestos, Diogelwch Ysgol, Gweithio ar Uchder, Codi a Symud yn Gorfforol, Iechyd a Diogelwch a’r Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS).  Roedd cyfle i sefyll prawf gyrru tractor hefyd i’r rhai oedd â diddordeb.

Dywedodd Lyndsay Edwards: “Pan gynigiwyd y cwrs hwn i’r grŵp, roedd yr ymateb yn arbennig ac roedd y 15 ohonynt yn awyddus iawn i gofrestru. Ond roedd rhai rheolau, sef fod rhaid i’r 15 ohonynt barhau i fynd i’r ysgol a hefyd ymrwymo i fynychu dosbarthiadau, ac rwy’n falch o ddweud eu bod wedi cadw at eu gair.  Roedd y cwrs yn llwyddiant ysgubol ac roedd yn bleser gweld eu brwdfrydedd i ddysgu sgiliau y byddent yn eu defnyddio.  Llwyddodd pob un ohonynt i basio’r tystysgrifau angenrheidiol ac aeth tri ymlaen i sefyll a phasio eu prawf gyrru tractor. Bydd chwech arall yn sefyll y prawf o fewn y mis nesaf, ar ôl iddynt droi’n 16 oed.”

Ar ddiwedd y cwrs, aeth y grŵp i GYG Karting ym Mharc Glan y Gors, Cerrigydrudion, i gael hwyl a chymryd rhan mewn heriau meithrin tîm a dysgu am y busnes a’r cyfleoedd cyflogaeth.   Gwnaeth Dylan Cai Davies argraff fawr ar Ashley Davies, Cyfarwyddwr GYG Karting, wrth ddangos gallu naturiol trwy ennill pob her, a dangos gwir ddiddordeb mewn dysgu, a chynigiwyd swydd ran amser iddo a fyddai’n cyd-fynd â’r tridiau yn y coleg i astudio peirianneg tir.

Dywedodd Elliw: “Fe gafodd y cwrs effaith fawr ar y grŵp hwn.  Nid yn unig wnaethon nhw fynychu’r cwrs a phasio pob prawf, ond dyma oedd ei angen arnynt er mwyn newid eu bywydau a rhoi ystyriaeth i’w dyfodol. Mae 13 ohonynt wedi symud ymlaen i’r coleg i barhau i astudio ac mae dau wedi cael gwaith. Mae hyn yn ganlyniad anhygoel ac rydw i’n gwybod bod y rhieni i gyd yn hynod o ddiolchgar i TRAC ac i Ganolbwynt Cyflogaeth Conwy am gynnig y cyfle hwn i’w plant.”

Dywedodd Libby Duo, Rheolwr Strategol Canolbwynt Cyflogaeth Conwy; “Mae’r cydweithio gyda TRAC yn dangos pa mor bwysig yw hi i ymyrryd pan nad yw myfyrwyr yn ymgysylltu yn yr ysgol, a thrwy gynnig cwrs hyfforddiant iddynt sy’n cyd-fynd â’u bywyd fferm a’u diddordebau, rydym wedi gallu eu hysbrydoli a rhoi sgiliau gydol oes iddynt i’w defnyddio nawr ac yn eu dyfodol hefyd.  Mae gweld 13 o fyfyrwyr yn mynd o beidio â mynychu gwersi i gofrestru yn y coleg a dau mewn gwaith llawn amser yn anhygoel, a hoffwn longyfarch pob un o’r 15 a dymuno pob llwyddiant iddynt yn y dyfodol.”

Mae Canolbwynt Cyflogaeth Conwy yn “siop pob peth” i’r gymuned sy’n helpu pobl Conwy i wella eu sgiliau, dod o hyd i waith, ennill profiad gwaith a gwirfoddoli.  Mae’n rhedeg rhaglen gyflogadwyedd Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru ac mae wedi sicrhau cyllid ychwanegol gan ffrydiau eraill er mwyn gallu cefnogi holl breswylwyr Conwy sy’n 16 oed a hŷn i ganfod cyflogaeth ystyrlon. 

Ewch i https://www.conwy.gov.uk/canolbwyntcyflogaethconwy i gael mwy o wybodaeth am Ganolbwynt Cyflogaeth Conwy

 

 

 

Wedi ei bostio ar 18/10/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content