Cronfa Ragoriaeth Conwy – ffenestr ymgeisio ar agor tan 7 Chwefror
Cronfa Ragoriaeth Conwy
Mae’r ffenestr ymgeisio ar gyfer rownd ddiweddaraf Cronfa Ragoriaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy bellach ar agor i bobl ifanc sy’n dalentog ym maes chwaraeon, addysg neu’r celfyddydau.
Mae Cronfa Ragoriaeth Conwy yn rhoi grantiau i rai o dan 30 oed sydd un ai’n cystadlu ar lefel genedlaethol mewn chwaraeon neu sy’n dalentog ym meysydd celfyddydau, dawns, cerddoriaeth, drama ac addysg. Nod y Gronfa yw eu helpu i gyflawni eu potensial drwy hyfforddiant a datblygu.
Mae modd defnyddio’r arian ar gyfer amrywiaeth o gefnogaeth, yn cynnwys prynu cyfarpar, hyfforddiant, teithio neu lety. Mae grantiau gwerth hyd at £800 ar gael.
Mae angen i geisiadau ar gyfer y rownd hon ein cyrraedd ni erbyn 7 Chwefror. Mae mwy o wybodaeth am y Gronfa Ragoriaeth a manylion am sut i ymgeisio ar wefan Conwy:
https://www.conwy.gov.uk/cy/Resident/Leisure-sport-and-health/Leisure-Development/Conwy-Excellence-Fund.aspx
Wedi ei bostio ar 09/01/2025