Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Conwy Sports Awards 2024 are open for applications

Mae Gwobrau Chwaraeon Conwy 2024 ar agor i geisiadau


Summary (optional)
start content

Mae Gwobrau Chwaraeon Conwy 2024 ar agor i geisiadau

Peidiwch â cholli’r cyfle i enwebu rhywun yn eich cymuned ar gyfer Gwobrau Chwaraeon Conwy.

Mae’r Gwobrau’n gyfle i gydnabod chwaraeon talentog lleol, clybiau chwaraeon, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr yn Sir Conwy am eu llwyddiannau anhygoel.

Dyma’r categorïau:

• Athletwr Iau y Flwyddyn

• Athletwraig Iau y Flwyddyn

• Tîm Chwaraeon Iau

• Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn

• Gwobr Llwyddiant Arbennig

• Athletwr Hŷn y Flwyddyn

• Athletwraig Hŷn y Flwyddyn

• Tîm Chwaraeon Iau

• Hyfforddwr y Flwyddyn

• Cyfraniad i Chwaraeon

• Digwyddiad y Flwyddyn

Dywedodd y Cynghorydd Aaron Wynne, Aelod Cabinet Hamdden Conwy:

“Bob blwyddyn, rwy’n rhyfeddu at ymroddiad yr athletwyr lleol sy’n cael eu henwebu ar gyfer y gwobrau hyn. Ac mae’n wych ein bod yn gallu cefnogi a chydnabod doniau a chyflawniadau ein hathletwyr.”

Enwebwch ar wefan Ffit Conwy: https://ffit.secure.conwy.gov.uk/en/Home/Leisure-Development/Sports-Awards-2024.aspx erbyn dydd Gwener 20 Medi 2024.

 

Wedi ei bostio ar 11/09/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content