Mae Gwasanaeth Ieuenctid Conwy yn sefydliad partner ar gyfer Senedd Ieuenctid nesaf Cymru
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Conwy yn falch o gael ei enwi fel un o’r 20 partner yng Nghymru ar gyfer trydedd Senedd Ieuenctid Cymru.
Cyhoeddwyd y rhestr derfynol o 20 sefydliad partner yr wythnos ddiwethaf (14/08/2024), cyn trydydd tymor Senedd Ieuenctid Cymru.
Fel sefydliad partner a enwir, bydd Gwasanaeth Ieuenctid Conwy nawr yn cynnal etholiad i ddewis unigolyn rhwng 11-17 oed i gynrychioli safbwyntiau’r bobl ifanc dros y ddwy flynedd nesaf.
Meddai’r Cynghorydd Julie Fallon, Aelod Cabinet Addysg: “Rydym yn falch bod Gwasanaeth Ieuenctid Conwy wedi’i enwi fel sefydliad partner, gan sicrhau bod lleisiau nifer o bobl ifanc ledled Conwy yn cael eu clywed a’u cynrychioli yng ngwaith Senedd Ieuenctid Cymru ar lwyfan cenedlaethol.
“Mae’n bwysig bod hawl pobl ifanc i gymryd rhan mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnynt yn cael ei bodloni, gan sicrhau bod gwleidyddion yn sylweddoli pa mor bwysig yw lleisiau pobl ifanc a sut gall y lleisiau hyn ein helpu i siapio dyfodol gwell.”
Roedd ceisiadau ar gyfer dod yn sefydliad partner yn cael eu dethol ar sail nifer o ffactorau a’u dewis i gynrychioli ystod o achosion a meysydd daearyddol.
Dolen i’r cyhoeddiad: Sefydliadau Partner yn cael eu cyhoeddi ar gyfer Senedd Ieuenctid nesaf Cymru (senedd.cymru)
Wedi ei bostio ar 22/08/2024