Conwy'n rhagori ar darged Prydau Ysgol am Ddim Cynhwysol
O fis Medi 2023, saith mis o flaen y dyddiad targed, caiff pob plentyn yn ein hysgolion cynradd gynnig pryd ysgol am ddim.
Cyflwynodd Llywodraeth Cymru gynllun Prydau Ysgol am Ddim i holl blant Ysgolion Cynradd y llynedd, gyda tharged y bydd pob plentyn yn ein hysgolion cynradd gael prydau ysgol am ddim erbyn mis Ebrill 2024.
Yng Nghonwy, mae pob plentyn oedran Dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 wedi cael cynnig prydau ysgol am ddim eleni, ac o ganlyniad, mae ein hysgolion cynradd wedi gweini 1,200 o brydau ychwanegol bob dydd.
O fis Medi 2023, caiff pob plentyn yn ein hysgolion cynradd gynnig pryd ysgol am ddim, ac rydym yn amcangyfrif y bydd hynny’n golygu gweini 1,500 o brydau ychwanegol bob dydd.
Mae ceginau ein hysgolion i gyd wedi’u huwchraddio i baratoi ar gyfer cyflwyno’r cynllun hwn. O osod poptai cyfun mwy, oergelloedd a rhewgelloedd mwy, trawsnewid o nwy i drydan, i osod ceginau newydd. Mae cyfanswm o bron i £2 filiwn o fuddsoddiad cyfalaf wedi’i wneud yng ngheginau ein hysgolion.
Yn ogystal, mae pob cegin ysgol a reolir gan Arlwyo Addysg yn ddi-bapur bellach. Mae Wi-Fi wedi’i osod ym mhob cegin ysgol, felly gallant roi gwybod sawl pryd a gaiff eu gweini, cynhyrchu taflenni amser, anfon ceisiadau am waith trwsio a chyfathrebu’n uniongyrchol â’r Gwasanaethau Addysg.
Dywedodd y Cynghorydd Julie Fallon, Aelod Cabinet Addysg Conwy: “Mae pawb yn teimlo pwysau ariannol yr argyfwng costau byw. Bydd prydau ysgol am ddim cynhwysol yn rhoi rhyddhad ariannol i deuluoedd, yn ogystal â darparu pryd maethlon i helpu plant ganolbwyntio ar eu haddysg.
Mae ein Gwasanaeth Addysg yn gweithio’n galed iawn i gyflwyno prydau ysgol am ddim cynhwysol i sicrhau nad oes yr un plentyn yn mynd heb fwyd yn yr ysgol.”
Wedi ei bostio ar 18/07/2023