Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Conwy foster carer shares family recipe in new celeb-backed cookbook

Gofalwr maeth Conwy yn rhannu rysáit i'r teulu mewn llyfr coginio newydd gyda chymorth enwogion


Summary (optional)
start content

Gofalwr maeth Conwy yn rhannu rysáit i'r teulu mewn llyfr coginio newydd gyda chymorth enwogion

Mae Ian wedi cyfrannu rysáit i gynnig rhywbeth newydd mewn llyfr newydd sy’n llawn ryseitiau a straeon arbennig am faethu gan ofalwyr a phobl sydd â phrofiad o ofal.

Dros y Bythefnos Gofal Maeth™ eleni, mae Maethu Cymru Conwy yn galw ar bobl yn yr ardal i ystyried dod yn ofalwyr maeth, er mwyn cefnogi pobl ifanc lleol mewn angen.

Dengys ymchwil diweddar gan Maethu Cymru – rhwydwaith cenedlaethol gwasanaethau maethu awdurdodau lleol – fod pobl yn aml yn ansicr ynghylch gwneud cais i ddod yn ofalwr gan nad ydyn nhw’n credu fod ganddynt y profiad a’r sgiliau ‘cywir’.

Yn eu llyfr coginio newydd, Gall Pawb Gynnig Rhywbeth, mae Maethu Cymru yn tynnu sylw at y pethau syml y gall gofalwr eu cynnig, megis sicrhau pryd o fwyd rheolaidd, amser teulu o amgylch y bwrdd, a chreu hoff fwydydd newydd.

Mae dros 20 o ryseitiau yn y llyfr coginio, gan gynnwys ryseitiau gan y gymuned gofal maeth a chogyddion enwog.

Mae’n cynnwys Enillydd MasterChef, Wynne Evans, Beirniad Young MasterChef, Poppy O’Toole a’r cogydd/ awdur Colleen Ramsey.  Mae hefyd yn cynnwys yr athletwr Olympaidd a’r ymgyrchydd gofal maeth, Fatima Whitbread, sydd â phrofiad personol o ofal. 

Mae cyn-gystadleuydd y Great British Bake-Off, Jon Jenkins a’r digrifwr, Kiri Pritchard Mclean hefyd wedi cyfrannu ryseitiau – gan dynnu ar eu profiadau personol fel gofalwyr maeth.

Yn bwysicaf, mae Ian o Maethu Cymru Conwy wedi rhannu rysáit ei Nain ar gyfer hash corn-bîff yn y llyfr. Mae Ian wedi bod yn ofalwr maeth gyda’i wraig Jackie ers 8 mlynedd, a dywedodd fod y rysáit arbennig hon yn ei atgoffa o’i blentyndod. “Mae arogl hash corn-bîff nain ar y stôf bob tro’r oedden ni’n galw heibio yn fy atgoffa o’r croeso cynnes fyddem ni’n ei gael wrth gyrraedd” meddai Ian. “Mae fy hash corn-bîff cartref yn dilyn rysáit nain, fel yr oedd hi’n arfer ei weini, yn feddal a rhaid ei fwyta gyda llwy! Mae’n boblogaidd iawn yn ein tŷ ni bob tro!”  

Mae Ian a Jackie yn maethu dros dymor byr, sy’n gallu golygu unrhyw beth o ychydig ddiwrnodau, wythnosau, misoedd neu hyd at ddwy flynedd. Dywedodd Ian: “Fe wnaethom ni ddewis maethu tymor byr oherwydd ein bod ni am gefnogi pobl leol yng Nghonwy drwy gynnig amgylchedd cartref cariadus a diogel nes iddyn nhw symud i rhywle mwy parhaol.”

“Rydym ni’n gobeithio y byddan nhw’n cadw atgofion arbennig o’u hamser gyda ni pan fyddan nhw’n symud ymlaen, waeth pa mor hir yr oedden nhw gyda ni, a gall atgofion o fwyd yn ystod plentyndod fod yn hiraethus a chysurlon iawn.”  

I lansio’r llyfr, bydd Colleen Ramsey, awdur ‘Bywyd a Bwyd, Life Through Food’, yn cynnal gweithdy coginio ar gyfer pobl ifanc â phrofiad o ofal er mwyn iddyn nhw ddysgu rysáit newydd a sgiliau coginio hanfodol ar gyfer eu bywydau fel unigolion annibynnol.

Mae pobl ifanc â phrofiad o ofal wedi bod yn rhan fawr o ddatblygu’r llyfr coginio hefyd.

Sophia Warner, darlunydd ac ymgyrchydd o Gymru, a pherson ifanc â phrofiad o ofal, wnaeth ddarlunio’r llyfr ac ysgrifennu’r rhagair ar ei gyfer:

“Pan oeddwn i’n iau, rydw i’n cofio’n iawn holi fy mam maeth yn dwll am wreiddiau’r bwyd roedd hi’n ei baratoi, gan fynnu mai o Aberhonddu oedd o’n dod, sef ardal fy mhlentyndod, sy’n annwyl i mi. Penderfynais ar ‘Brecon Bolognese’ ar gyfer y llyfr, ar sail rysáit fy mam maeth.

“Mae’r rysáit yn bwysig i mi oherwydd dyma’r pryd o fwyd cyntaf i mi ei gael pan symudais i’m cartref maeth. Dywedais y byddai fy mam fiolegol yn arfer ei goginio i mi, ac aeth fy mam maeth ati i’w baratoi i mi. Wrth eistedd o amgylch y bwrdd gyda fy nheulu maeth newydd, teimlais fy mod yn perthyn a chefais deimlad o groeso cynnes iawn.”

Bob mis Mai, mae’r Bythefnos Gofal Maeth™ - ymgyrch flynyddol gan y Rhwydwaith Maethu i godi proffil maethu a dangos i bobl sut y mae gofal maeth yn trawsnewid bywydau – yn gobeithio codi ymwybyddiaeth o’r angen am fwy o ofalwyr maeth. 

Mae dros 7,000 o blant yn y system ofal yng Nghymru, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth. 

Nod mentrus Maethu Cymru yw recriwtio dros 800 o deuluoedd maeth newydd erbyn 2026, i ddarparu cartrefi croesawgar i blant a phobl ifanc lleol.

Meddai’r Cynghorydd Liz Roberts, Aelod Cabinet Plant, Teuluoedd a Diogelu Conwy: “Mae ein gofalwyr maeth yn gwneud gwaith ardderchog dros blant a phobl ifanc i sicrhau eu bod yn teimlo’n ddiogel. Mae’r llyfr hwn yn dangos bod profiad a rennir trwy fwyd yn gallu bod yn bwerus. Efallai fod pryd o fwyd yn syml, ond mae’n cynrychioli rhan o’r gefnogaeth anhygoel mae ein gofalwyr maeth yn ei gynnig i helpu i gael effaith barhaus.

“Byddwn i’n annog unrhyw un sydd eisiau gwneud gwahaniaeth i fywyd plentyn i rannu eu sgiliau a’u profiad a chysylltu â thîm Maethu Cymru Conwy.”

“Pan fyddwch yn maethu gyda Maethu Cymru Conwy, bydd gennych fynediad at wybodaeth a chymorth lleol pwrpasol, pecyn dysgu a datblygu gwych ac yn bwysicaf oll, gallwch helpu plant i aros yn eu cymunedau lleol, yn agos at ffrindiau, eu hysgol a phopeth sy’n bwysig iddynt.”

Bydd y llyfr coginio’n cael ei ddosbarthu i ofalwyr maeth ar draws Cymru a gellir lawrlwytho fersiwn ddigidol oddi ar: gall pawb gynnig rhywbeth - maethu cymru (llyw.cymru)

Dilynwch @maethucymruconwy yn ystod pythefnos gofal maeth i weld beth sydd gan ein gofalwyr maeth yng Nghonwy i’w gynnig!

I ddysgu mwy am fod yn ofalwr maeth yng Nghonwy, ewch i Maethu yng Nghonwy | Maethu Cymru Conwy

Wedi ei bostio ar 14/05/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content