Ardaloedd chwarae yng Nghonwy yn cael hwb gan arian y DU

Llecyn Gemau Amlddefnydd, Min-y-Don, Hen Golwyn
Mae gwelliannau wedi’u gwneud i bron i draean yr ardaloedd chwarae yn Sir Conwy, gydag arwyneb a chyfarpar chwarae newydd.
Mae 43 o ardaloedd chwarae yn Sir Conwy wedi cael eu hailwampio, diolch i gyllid gan Gronfa Allweddol Adfywio Cymunedol Conwy, rhan o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Mae’r gwaith gwella wedi cynnwys gosod 2,600 medr sgwâr o arwyneb diogelwch newydd; gwella draenio; gosod giatiau newydd; ac ail baentio a marcio llinellau newydd ar 14 Llecyn Gemau Amlddefnydd.
Ym Mharc Pentre Mawr yn Abergele, mae cylchfan gynhwysol a siglen fasged wedi cael eu gosod i wneud y man chwarae’n fwy hygyrch i fwy o blant. Yn ardal chwarae’r Gogarth, mae llwybr antur newydd, ac mae gan ardal chwarae Dingle Penmaenmawr lithren a throellwr bowls newydd.
Dywed y Cyngor bod cydweithio wedi bod yn allweddol i wneud y mwyaf o’r cynllun.
Meddai’r Cyng. Goronwy Edwards, Aelod Cabinet Isadeiledd, Cludiant a Chyfleusterau: “Rydym wedi gweithio ochr yn ochr â Chyngor Tref Bae Colwyn, sydd wedi rhoi cyllid ar gyfer siglenni newydd ym Mryn Cadno ac Ystâd y Glyn. Ariannodd Cyngor Tref Llandudno giatiau newydd i’r cae chwarae ym Mhenmorfa ac fe wnaethom weithio gyda Chyngor Cymuned Llysfaen i ddarparu cysgod newydd ym Mharc Peulwys.
“Yn Ochr y Penrhyn, rydym wedi gosod llithren newydd a chyfarpar chwarae rotor ar y cyd â Ffederasiwn Grwpiau Cyfeillion Llandudno, sydd hefyd wedi gosod cyfarpar newydd yng Nglanwydden.
“Mae gweithio gyda chynghorau tref a chymuned a grwpiau gwirfoddolwyr wedi gwneud y mwyaf o’r buddion i breswylwyr lleol.”
Meddai’r Cyng. Nigel Smith, Aelod Cabinet Economi Gynaliadwy Conwy: “Mae’r Gronfa Allweddol Adfywio Cymunedol wedi ei gwneud yn bosibl i’r cyllid gael ei ddosbarthu ar draws y sir i sicrhau bod cymunedau lleol yn elwa o UKSPF.
“Rwyf yn falch iawn bod y prosiectau hyn wedi cael effaith uniongyrchol drwy uwchraddio cyfleusterau chwarae yng nghalon ein cymunedau - ac mae’r cyfan wedi dwyn ffrwyth drwy weithio yn ein cymunedau, a gyda nhw.”
Ceir rhagor o wybodaeth am y prosiectau llwyddiannus a’r UKSPF ar wefan y Cyngor ar: Cronfa Allweddol Adfywio Cymunedol - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Nod y Gronfa Ffyniant Gyffredin yw gwella balchder mewn lleoedd a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU, drwy fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau: https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus
Wedi ei bostio ar 11/02/2025