Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Council Approves Updated Corporate Plan

Cyngor yn Cymeradwyo Cynllun Corfforaethol wedi'i Ddiweddaru


Summary (optional)
start content

Cyngor yn Cymeradwyo Cynllun Corfforaethol wedi'i Ddiweddaru

Ers sawl blwyddyn, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cynnal adolygiad blynyddol i ddiweddaru’r Cynllun Corfforaethol. Cafodd y Cynllun Corfforaethol diwygiedig ei gymeradwyo gan Gynghorwyr yng nghyfarfod y Cyngor ddoe (27/02/25). 

Mae’r Cynllun Corfforaethol, sydd ar waith tan 2027, wedi cael ei ddiwygio i fynd i’r afael â heriau’r hinsawdd ariannol bresennol, a’i ddiwygio o naw canlyniad i bump nod allweddol.  Nod y diwygiadau yw cynyddu gallu’r Awdurdod i gyflawni ei uchelgeisiau hirdymor yn fwy effeithiol ac effeithlon.

Mae’r pum nod allweddol yn canolbwyntio ar y meysydd pwysicaf sydd yn creu newid cadarnhaol a datblygiad cynaliadwy yn y gymuned.

Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Charlie McCoubrey: “Mae hi’n bwysig iawn ein bod ni’n canolbwyntio ein hymdrechion a’n hadnoddau yn ystod y cyfnod economaidd heriol yma.  Mae’r pum nod allweddol yn rhoi rhagor o eglurder er mwyn sicrhau bod ein gweithredoedd yn cael effaith sydd yn cyd-fynd ag anghenion ein cymunedau.”

Y pum nod hirdymor sydd wedi’u hamlinellu yn y Cynllun Corfforaethol ydi:

1. Cyngor Gwydn - Bydd y Cyngor yn gynaliadwy ac yn parhau i allu darparu gwasanaethau craidd i fodloni anghenion trigolion ac ymwelwyr.

2. Yr Amgylchedd - Bydd ein gweithredoedd yn arafu’r newid yn yr hinsawdd ac yn diogelu’r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

3. Ffyniant a Dysg - Bydd ein treftadaeth gyfoethog wedi’i diogelu er mwyn cefnogi lles cenedlaethau’r dyfodol. Byddwn wedi llwyddo i gadw talentau sy’n cefnogi twf ac yn rhoi Conwy wrth wraidd economi Gogledd Cymru. Bydd ein plant yn ddysgwyr uchelgeisiol a medrus. Byddant yn unigolion iach a hyderus sy’n chwarae rhan weithgar yn ein cymunedau, gyda’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y cyfleoedd swyddi sydd ar gael.

4. Tai - Drwy ganolbwyntio ar ddull strategol, byddwn wedi creu cymunedau cynaliadwy y mae’r trigolion yn falch o’u galw’n gartref. 

5. Lles - Rydym eisiau creu amgylchedd lle mae diogelu’n gyfrifoldeb i bawb a lle nad oes unrhyw un yn cael eu niweidio.  Byddwn yn galluogi pobl i fyw bywydau hirach, iachach a hapusach.  Rydym eisiau i bobl allu gofalu amdanynt eu hunain, gwneud dewisiadau bywyd iach a byw’n dda gyda phroblemau iechyd cronig. Byddwn wedi lleihau effeithiau niweidiol tlodi. Drwy gefnogi’r sector gofal, bydd y gofal cywir ar gael pan fo’i angen, a bydd yn bodloni anghenion poblogaeth demograffig newidiol Conwy.

Meddai’r Cynghorydd McCoubrey “Rydym ni wedi ymrwymo i weithio gyda chymunedau, busnesau a phartneriaid i gyflawni’r golau yma, a bydd y Cynllun Corfforaethol diwygiedig yma’n gweithredu fel map trywydd ar gyfer mentrau a gweithredoedd yr awdurdod ar gyfer y weinyddiaeth bresennol.”

Mae rhagor o wybodaeth am y Cynllun Corfforol diwygiedig ar gael ar wefan Conwy: www.conwy.gov.uk/cynlluncorfforaethol

Wedi ei bostio ar 28/02/2025

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content