Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Council Tax Premium on second homes and long term empty homes to be decided

Premiwm Treth y Cyngor ar ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor i'w benderfynu


Summary (optional)
start content

Premiwm Treth y Cyngor ar ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor i'w benderfynu

Mewn cyfarfodydd dros yr wythnosau nesaf bydd cynghorwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn penderfynu ar lefel y Premiwm Treth y Cyngor i’w godi ar ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor yn 2025/26.

Gofynnwyd i’r cyhoedd am eu barn mewn ymgynghoriad rhwng 8 Gorffennaf a 18 Awst 2024 a chafwyd 691 ymateb.

Mae Cynghorwyr hefyd wedi bod yn edrych ar y goblygiadau a’r canlyniadau a allent fod yn gysylltiedig â gwahanol lefelau o bremiymau treth y Cyngor, i’w helpu gyda’r broses o wneud penderfyniad.

Mae Premiymau Treth y Cyngor yn ffordd i awdurdodau lleol annog perchnogion i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd,  i  gefnogi’r cynnydd mewn tai fforddiadwy i’w prynu neu eu gosod ac i geisio gwella cynaliadwyedd cymunedau lleol.

Gofynnir rŵan i Gynghorwyr benderfynu a ydynt am dderbyn argymhellion y Gweithgor Tai Fforddiadwy (Premiymau Treth y Cyngor) yn dilyn eu cyfarfod y mis diwethaf, sef

  • Codi Premiwm Treth y Cyngor o 150% ar ail gartrefi o 1 Ebrill 2025.
  • Codi Premiwm Treth y Cyngor o 200% ar gyfer cartrefi gwag hirdymor sydd wedi bod yn wag am hyd at 5 mlynedd neu lai o 1 Ebrill 2025 ymlaen.
  • Codi Premiwm Treth y Cyngor o 300% ar gyfer cartrefi gwag hirdymor sydd wedi bod yn wag am 5 mlynedd neu fwy o 1 Ebrill 2025 ymlaen.
  • Premiwm dangosol o 200% ar gyfer y ddau gategori o 1 Ebrill 2026 ymlaen, gan gyflwyno premiwm uwch o 300% ar gyfer eiddo gwag hirdymor a fu’n wag am bedair blynedd neu fwy, yn amodol ar adolygiad yn ystod 2025/2026.

Dywedodd y Cynghorydd Charlie McCoubrey, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy: “Mae’r premiymau hyn yn ymwneud yn bennaf â cheisio cynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy yn y Sir, ar adeg pan fo mwy a mwy o bobl yn methu dod o hyd i dai addas.”

“Mae’n bwysig cofio fod y refeniw a godir yn mynd tuag at gefnogi’r pwysau ar gyllideb tai’r Cyngor ar adeg pan fo’r rhagolygon ariannol i bob Awdurdod Lleol yn parhau i fod yn heriol.”

Mae amrywiaeth o fesurau ar gael i helpu i gefnogi unrhyw un sydd ag eiddo gwag i ddod ag o’n ôl i ddefnydd. Anogir perchnogion i gysylltu â thîm tai y Cyngor: taigwag@conwy.gov.uk neu 01492 574235.

Bydd yr adroddiad ar Bremiymau’n cael ei drafod gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Cyllid ac Adnoddau'r Cyngor (7 Hydref) a bydd yn mynd i’r Cabinet (8 Hydref) cyn y penderfyniad terfynol gan y Cyngor (17 Hydref). Gellir gwylio’r cyfarfodydd ar wefan y Cyngor yma: Democratiaeth Lleol Conwy : Calendr cyfarfodydd misol - Hydref 2024

 

Wedi ei bostio ar 02/10/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content