Cynghorwyr yn trafod dyfodol Bodlondeb
Cyflwynwyd yr adroddiad diweddaraf ar waredu swyddfeydd Bodlondeb i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cyllid ac Adnoddau yr wythnos ddiwethaf a bydd yn cael ei roi gerbron y Cabinet ar 13/08/24.
Llynedd fe benderfynodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy edrych ar y posibilrwydd o ddefnyddio un prif swyddfa (Coed Pella yn unig).
Fel rhan o’r gwaith yma, ym mis Mawrth, gwahoddodd y Cyngor ddatganiadau o ddiddordeb ar gyfer swyddfeydd Bodlondeb ac yna ym mis Mai estynnwyd gwahoddiad i dendro.
Mae’r canlyniadau rŵan yn cael eu hadrodd i’r cynghorwyr, a fydd yn penderfynu cymeradwyo dull un swyddfa ai peidio, a dewis y cynigydd a ffafrir ar gyfer adeilad Bodlondeb.
Meddai’r Cynghorydd Charlie McCoubrey, Arweinydd y Cyngor: “Rydym ni wedi ymgysylltu â’r farchnad i ganfod cyfle cynaliadwy ar gyfer y safle a thref Conwy. Mae’n ddyletswydd arnom i wneud yn siŵr ein bod ni’n gwneud y penderfyniad cywir.
“Mae’n rhaid i ni leihau ein costau refeniw, gwneud y defnydd gorau o’n hasedau, lleihau ein hallyriadau carbon, osgoi costau atgyweirio a chynnal a chadw sylweddol, a chreu cyfle ar gyfer datblygiad economaidd.
“Bydd ar gynghorwyr angen ystyried y wybodaeth yn ofalus a chytuno ar y camau nesaf.”
Os caiff yr adroddiad a’r argymhellion eu cymeradwyo, mae’n debyg y bydd y cynigydd a ffafrir yn cael ei gyhoeddi’n ffurfiol ddiwedd mis Awst ar ôl cwblhau’r prosesau cyfreithiol angenrheidiol.
Wedi ei bostio ar 31/07/2024