Gorsafoedd beicio'n cael eu dadorchuddio ar hyd arfordir Conwy
Gall beicwyr ar hyd llwybr arfordir Sir Conwy gael help llaw wrth i orsafoedd beicio newydd gael eu gosod gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Mae’r gorsafoedd cynnal a chadw a mannau gwefru beiciau trydan yn cael eu gosod mewn mannau allweddol ar hyd Llwybr Beicio Cenedlaethol 5, yn sgil cyllid o gyllideb teithio llesol Llywodraeth Cymru.
Mae’r gorsafoedd cyntaf ar gael i’w defnyddio ar y promenâd yn Llanfairfechan, Penmaenmawr a Llandrillo-yn-Rhos a gerllaw Canolfan Ddiwylliant Conwy.
Bwriedir gosod chwech o orsafoedd a mannau gwefru eraill yn Llandudno, Bae Colwyn, Hen Golwyn, Pensarn a Bae Cinmel.
Mae’r gorsafoedd cynnal a chadw’n cynnwys offer trwsio a set goriadau ‘hex’, tyrnsgriwiau, tyndro a lifrau teiars, yn ogystal â phwmp beic a mesurydd PSI. Mae’r mannau gwefru yn rhad a cam ddim i feiciau trydan - gellir cloi’r batris y tu mewn i’r blwch gwefru er mwyn diogelwch. Mae’n cymryd 3 awr i wefru’n llawn, yn dibynnu ar faint y batri.
Dywedodd y Cynghorydd Goronwy Edwards, Aelod Cabinet yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau - Isadeiledd: “Bydd y gorsafoedd yma’n helpu beicwyr wrth gymudo’n ddyddiol yn ogystal â phobl sy’n beicio er pleser. Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i fod yn ddi-garbon net erbyn 2030. Mae cefnogi teithio llesol, mwy gwyrdd yn rhan o’r ymrwymiad hwnnw.
Wedi ei bostio ar 07/12/2023