Dyddiad cau yn agosáu i gael ID pleidleisiwr am ddim cyn yr etholiad cyffredinol
Mae'r amser i wneud cais i gael ID pleidleisiwr am ddim cyn yr etholiad cyffredinol yn dod i ben cyn hir. Y dyddiad cau yw 5pm ddydd Mercher 26 Mehefin.
Am y tro cyntaf mewn etholiad cyffredinol, bydd angen i bleidleiswyr ddangos ID ffotograffig er mwyn cael eu papur pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio. Gall y rhai nad oes ganddynt fath o ID a dderbynnir wneud cais ar-lein am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr, yn www.gov.uk/ceisio-am-lun-id-tystysgrif-awdurdod-pleidleiswyr neu drwy wneud cais am ffurflen bapur a'i chyflwyno i’r tîm gwasanaethau etholiadol.
Rhaid i ymgeiswyr fod wedi'u cofrestru i bleidleisio a bydd angen iddynt ddarparu eu dyddiad geni, eu rhif Yswiriant Gwladol a ffotograff.
Nid oes angen i'r rhai sydd â math o ID a dderbynnir wneud cais. Ymysg y mathau o ID a dderbynnir mae pasbort y DU, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Gymanwlad; trwydded yrru y DU neu'r Ardal Economaidd Ewropeaidd; a rhai cardiau teithio rhatach, megis pàs bws person hŷn neu gerdyn Oyster 60+. Bydd pleidleiswyr yn gallu defnyddio ID sydd wedi dirwyn i ben os gellir eu hadnabod o'r ffotograff o hyd.
Cynhelir yr etholiad cyffredinol ddydd Iau 4 Gorffennaf.
Dywedodd Craig Westwood, Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Polisi ac Ymchwil: “Mae ID ffotograffig bellach yn ofynnol wrth bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio yn yr etholiad cyffredinol. Os nad oes gennych fath o ID a dderbynnir, gallwch wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr o hyd, sef math o brawf adnabod a geir am ddim. Mae argaeledd ID am ddim yn helpu i sicrhau bod etholiadau yn parhau'n hygyrch i bob pleidleisiwr cymwys. Ond mae'n hanfodol bod pobl yn gwneud cais cyn y dyddiad cau os oes angen un arnynt. Mae'r dyddiad hwnnw yn prysur nesáu, felly peidiwch ag oedi.”
Dywedodd Rhun ap Gareth, y Swyddog Canlyniadau Gweithredol: “Wrth i'r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais i gael ID am ddim agosáu, mae'n bwysig bod preswylwyr yn gwneud yn siŵr eu bod yn barod am yr etholiad. Os bydd angen unrhyw help arnoch i wneud cais i gael ID pleidleisiwr am ddim, neu os byddwch am gael ffurflen gais, gallwch gysylltu â'r tîm gwasanaethau etholiadol ar 01492 575570.”
Wedi ei bostio ar 20/06/2024