Diwedd mis Mai yw'r dyddiad cau ar gyfer Grant Hanfodion Ysgol
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn annog rhieni a gofalwyr cymwys i beidio â cholli’r cyfle i gael hyd at £200 drwy’r Grant Hanfodion Ysgol Llywodraeth Cymru.
Mae 88% o’r rheiny sydd yn gymwys wedi hawlio eu grant Hanfodion Ysgol am ddim i helpu gyda chostau ar gyfer pethau megis gwisg ysgol, esgidiau, bagiau, dillad ac offer chwaraeon. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy bellach yn atgoffa rhieni i wirio ac i wneud cais cyn ei bod hi’n rhy hwyr.
Mae plant mewn o deuluoedd sydd ar incymau is sy’n derbyn budd-daliadau penodol, y rhai hynny sy’n ceisio lloches a phlant mewn gofal yn gallu hawlio £125 y flwyddyn i helpu gyda chostau ysgol. O achos y costau ychwanegol y gall teuluoedd eu hwynebu pan fydd eu plant yn dechrau mewn ysgol uwchradd, mae £200 ar gael i ddisgyblion cymwys a fydd yn dechrau ym mlwyddyn 7. Hefyd gallai hyn olygu cyllid ychwanegol ar gyfer eich ysgol.
Dywedodd y Cynghorydd Julie Fallon, Aelod Cabinet Addysg, “Mae’r ffenestr i wneud cais ar gyfer cyllid eleni yn cau ar 31 Mai, felly rydym yn atgoffa rhieni i wirio eu bod yn gymwys. Rydym yn gwybod bod llawer o rieni wedi cael y grant, ond nid ydym eisiau i unrhyw un golli’r cyfle i gael yr hyn y mae ganddynt hawl iddo.”
Gellir defnyddio’r grant hwn i dalu am wisg ysgol, gan gynnwys cotiau ac esgidiau; gweithgareddau ysgol megis dysgu offeryn cerdd, dillad ac offer chwaraeon ar gyfer gweithgareddau ar ôl ysgol; neu hanfodion ar gyfer yr ystafell ddosbarth megis pinnau ysgrifennu, pensiliau a bagiau. Felly gall wneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Hyd yn oed os yw eich plentyn eisoes yn cael Prydau Ysgol am Ddim, rydych dal angen gwirio os ydych yn gymwys i gael y Grant Hanfodion Ysgol a’r cyllid ychwanegol ar gyfer eich ysgol. I gael rhagor o wybodaeth am y Grant Hanfodion Ysgol ac i wirio eich cymhwysedd, ewch i
https://www.llyw.cymru/hawliwch-help-gyda-chostau-ysgol
Wedi ei bostio ar 10/05/2024