Ymweld ag Eryri yn Gyfrifol a Chynaladwy
Ymweld ag Eryri yn Gyfrifol a Chynaladwy: Partneriaid yn atgyfnerthu’r angen i barchu’r Parc Cenedlaethol dros Ŵyl y Banc a gwyliau hanner tymor
Gyda penwythnos gŵyl y banc a gwyliau hanner tymor yn agoshau mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Cyngor Gwynedd, Cyngor Conwy, Traffic Cymru a Heddlu Gogledd Cymru yn ymuno a’i gilydd i annog y cyhoedd i ymweld ag Eryri yn gyfrifol a chynaladwy.
Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn ardal o harddwch naturiol anhygoel sy’n denu ymwelwyr o bell ac agos. Er hynny mae’r cynnydd mewn poblogrwydd yn dod a heriau i’n cymunedau ac amgylchedd bregus. Er mwyn sicrhau ein bod yn diogelu Eryri mae’n hanfodol bod ymwelwyr yn mabwysiadu arferion cynaladwy ac yn dilyn y canllawiau sy’n cael eu darparu.
Dywedodd Gethin Jones, Prif Arolygydd Heddlu Gogledd Cymru:
“Mae parcio anghyfrifol yn gallu peryglu cerddwyr, beicwyr a defnyddwyr ffyrdd eraill ond yn ogystal a hyn yn effeithio ar fynediad cerbydau y gwasnaethau brys. Rydym wedi tystio enghreifftiau blaenorol o gerddwyr a phlant bychain yn cael eu gorfodi i gerdded ar y ffordd mewn ardaloedd megis Llyn Ogwen a Phen-y-Pass oherwydd gweithredoedd hunanol y lleiafrif – mae hyn yn hollol annerbyniol. Yn ddiweddar bu’n rhaid i ni gau yr A5 oherwydd perygl i ddefnyddwyr ffordd.
Mi fyddwn yn parhau i gydweithio gyda’n partneriaid i leihau’r perygl i holl ddefnyddwyr ffyrdd a mi fydd unrhywun sy’n parcio ar glirffordd neu’n achosi rhwystr o bosib yn cael eu cerbyd wedi eu symud ac yn gorfod talu’r costau. Cymerwch sylw o’r rhybudd.”
Mae rheoliadau parcio a thrafndiaeth yn chwarae rôl hanfodol yn rheoli llif ymwelwyr i ardaloedd poblogaidd y Parc Cenedlaethol. Mae Traffic Cymru ac awdurdodau lleol wedi cyflwyno mesuriadau i hwyluso tagfeydd a diogelu holl ddefnyddwyr y ffyrdd. Rydym yn annog ymwelwyr i wirio gwefannau a sianeli cyfryngau cymdeithasol am fwy o wybodaeth am argaeledd parcio, opsiynau trafnidiaeth amgen a diweddariadau traffig.
Dywedodd llefarydd ar rhan Traffig Cymru:
“Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosibl mwynhau’r hyn sydd gan y Parc Cenedlaethol i’w gynnig mewn ffordd ddiogel a chyfrifol. Dylai holl ddefnyddwyr ffordd gynllunio ymlaen llaw ac osgoi anghyfleustra drwy ystyried defnyddio opsiynau mwy cynaliadwy ar gyfer eu siwrneiau, teithio y tu allan i oriau brig ac, os maent yn cyrraedd mewn car, parcio mewn mannau parcio dynodedig.”
Mae’r holl sefydliadau am bwysleisio pwysigrwydd dilyn y Cod Cefn Gwlad, bod yn ymwybodol o reoliadau parcio a thrafnidiaeth a fod a cynllun wrth gefn. Rydym hefyd yn falch o gyhoeddi canllawiau ymweld newydd sydd ar gael ar wefan Awdurdod y Parc Cenedlaethol.
Dywedodd Emyr Williams, Prif Weithredwr Awdurdod y Parc Cenedlaethol:
“Trwy gyhoeddi cyfres o ganllawiau ymweld newydd ar ein gwefan rydym yn rhoi pŵer i ymwelwyr brofi Eryri mewn ffordd gynaladwy, darganfod mwy o’r ardal heb gar a gwneud y dewis gorau o pa lwybr sydd fwyaf addas iddyn nhw ar gyfer Yr Wyddfa.
Mae’r canllawiau yma yn Adnoddau amhrisiadwy sy’n darparu mewnolwg a chyngor ymarferol fydd yn galluogi unigolion wneud penderfyniadau gwybodus, lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd a sicrhau ymweliad cofiadwy a chyfrifol i’n Parc Cenedlaethol”.
Yn ystod cyfnodau brig rydym yn annog y Parc Cenedlaethol i ddefnyddio cyfleusterau Parcio a Theithio neu meysydd parcio dynodedig os yn cyrraedd mewn car. Mae’n rhaid i ymwelwyr sy’n dymuno parcio ym Mhen y Pass ragarchebu eu safle o flaen llaw er mwyn sicrhau lle ac osgoi tagfeydd.
Mi ddylai perchnogion cerbydau ddilyn y cyfyngiadau parcio newydd yn Nyffryn Ogwen, gall methu gwneud hyn arwain at dderbyn Rhybudd Talu Cosb neu atafaelu y cerbyd.
Yn ychwanegol, i barchu cymuned Nant Gwynant trwy ddilyn y rheoliadau lleol, bod yn ymwybodol o sŵn a mynd a’ch holl sbwriel adref gyda chi.
Mae’r Cod Cefn Gwlad yn amlinellu egwyddorion bod yn gyfrifol yn yr awyr agored trwy barchu eraill, diogelu bywyd gwyllt a da byw, a pheidio gadael gadael unrhyw ôl o’ch hymweliad. Mae ymwelwyr yn cael eu hannog i ymgyfarwyddo a’r cod a dilyn yr argymhellion er mwyn gwarchod tirweddau a bioamrywiaeth unigryw y Parc.
Wrth ddisgwyl nifer uchel o ymwelwyr dros y gwyliau, mae’r sefydliadau yn pwysleisio’r angen am gynllun wrth gefn. Os yw’r gyrchfan dymunol yn rhy brysur, mae ymwelwyr yn cael eu hannog i ddarganfod ardaloedd amgen sy’n cynnig tirweddau a chyfloedd hamdden sydd yr un mor syfrdanol.
- Canllawiau ar sut i ymweld Eryri yn gynaladwy
- Tudalen hysbysiadau Traffig Cymru
- Gwybodaeth am barcio yn Pen y Pass
- Amserlenni Sherpa’r Wyddfa Timetables
- Ap Parcio Eryri
Wedi ei bostio ar 25/05/2023