Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Family Centre refurbishment underway

Gwaith yn dechrau i adnewyddu Canolfan Deuluoedd


Summary (optional)
start content

Gwaith yn dechrau i adnewyddu Canolfan Deuluoedd

Mae gwaith yn dechrau yr wythnos hon i adnewyddu Canolfan Deuluoedd Llanrwst a ariennir drwy Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ail-gydbwyso (IRCF) Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Mae’r Ganolfan Deuluoedd yn Nhŷ’r Eglwys, Heol Watling yn Llanrwst ers 2003 ac mae wedi cefnogi cannoedd o deuluoedd, cynnal miloedd o grwpiau, a darparu gofod i asiantaethau eraill ddarparu cefnogaeth i’r gymuned leol, megis Hawliau Lles, Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd Cyffredinol a Nyrsys Ysgol trwy gynnig gwasanaethau galw heibio.

Prynodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yr adeilad gan yr Eglwys yng Nghymru ym mis Gorffennaf, gan ddefnyddio cyllid o Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ail-gydbwyso (IRCF) Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

A mis Medi dyfarnodd Llywodraeth Cymru gyllid pellach i Gyngor Conwy er mwyn adnewyddu’r adeilad.

Dywedodd Dawn Bowden, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol: “Mae hwn yn gyfleuster gwych sydd eisoes yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau cannoedd o deuluoedd yng Ngogledd Cymru.

“Rwy’n falch y bydd ein buddsoddiad o dros £600,000 o’r Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ail-gydbwyso (IRCF) yn helpu’r Ganolfan i dyfu a pharhau â’u hystod eang o wasanaethau hanfodol i’r gymuned, ac edrychaf ymlaen at weld sut y bydd y gwelliannau hyn yn ehangu ac ailfywiogi’r cyfleuster hanfodol hwn.”

Bydd y gwaith adnewyddu yn cynnwys ad-drefnu'r cynllun i wneud gwell defnydd o'r gofod, gwella hygyrchedd, ac ailosod ffenestri i wella effeithlonrwydd ynni. Disgwylir y bydd y gwaith yn cymryd tua 6 mis i’w gwblhau.

Dywedodd y Cynghorydd Penny Andow, Aelod Cabinet Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol Integredig:  “Bydd y gwaith adnewyddu yn caniatáu i’r Ganolfan ymestyn y gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig i’n teuluoedd, a rhoi mwy o gyfleoedd i weithio mewn partneriaeth. Rydym yn ddiolchgar am gyllid Llywodraeth Cymru er mwyn medru gwneud hyn, ac edrychwn ymlaen at groesawu ein holl deuluoedd yn ôl i’r Ganolfan ar ei newydd wedd y flwyddyn nesaf.”

Bydd gweithgareddau a gwasanaethau’r Ganolfan Deuluoedd yn parhau mewn lleoliadau eraill tra bo’r gwaith yn mynd rhagddo. 

Dilynwch Canolfan Deuluoedd Llanrwst  ar Facebook.

I ddod o hyd i’ch canolfan deuluoedd agosaf, oriau agor, ac i weld beth sy’n digwydd yn eich ardal leol, ewch i www.conwy.gov.uk/bywydteuluol 

 

Wedi ei bostio ar 05/11/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?