Maethu Cymru Conwy yn cyhoeddi pecyn buddion gwell i geisio recriwtio mwy o ofalwyr maeth awdurdod lleol
Mae Maethu Cymru Conwy wedi cyhoeddi menter newydd a chyffrous i ddenu mwy o ofalwyr maeth, gan ddarparu pecyn unigryw o gefnogaeth a manteision iddyn nhw.
Mae gofalwyr maeth sy’n maethu gyda’u hawdurdod lleol yng Nghonwy yn gallu cael gostyngiad Treth y Cyngor o hyd at 100%, aelodaeth gwasanaethau chwaraeon a hamdden Ffit Conwy am ddim a dewis o drwyddedau parcio yng Nghonwy.
Nod y pecyn buddion newydd yw cydnabod y rôl amhrisiadwy y mae gofalwyr maeth Conwy yn ei chwarae wrth gefnogi plant a phobl ifanc lleol mewn gofal a diolch iddyn nhw am eu hymdrechion a’u hymroddiad.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy hefyd wedi cymeradwyo polisi sy’n cefnogi maethu ar gyfer staff sy’n maethu gyda’r awdurdod lleol, ac maen nhw bellach yn gallu gwneud cais am 5 diwrnod ychwanegol o wyliau arbennig.
Yn ogystal â hyn, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cyflwyno dewis o drwyddedau parcio ar gyfer ardaloedd penodol yn y sir. Gall gofalwyr maeth ddewis o chwe ardal.
Meddai’r Cyng. Liz Roberts, Aelod Cabinet Plant, Teuluoedd a Diogelu Conwy: “Hoffaf ddiolch i’m cyd-gynghorwyr am gefnogi’r fenter hon. Mae gofalwyr maeth yng Nghonwy yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau plant a phobl ifanc lleol. Gobeithio y bydd y buddion newydd yma, yn ogystal â’n pecyn cefnogi cynhwysfawr presennol, yn dangos iddyn nhw faint rydym ni’n gwerthfawrogi popeth maen nhw’n ei wneud.
“Rydym ni’n chwilio am nifer fawr o deuluoedd maeth newydd yng Nghonwy i ddarparu cartrefi croesawgar i blant a phobl ifanc lleol a helpu’r plant i aros yn eu cymunedau.
“Pan nad ydym ni’n gallu canfod teulu maeth addas o fewn ein carfan o ofalwyr maeth, does gennym ni ddim dewis ond lleoli plant gyda theuluoedd maeth eraill. “Mae hyn yn aml iawn yn golygu symud y plant o’u cymuned, ac felly maen nhw’n colli eu ffrindiau, eu teulu, eu hysgol a phopeth arall sy’n bwysig iddyn nhw.
“Mae dod yn ofalwr maeth gyda Maethu Cymru Conwy yn golygu y byddwch chi’n dod yn rhan o’n cymuned faethu, ac rydym ni’n falch o allu darparu rhyddhad dewisol Treth y Cyngor i ofalwyr maeth fel rhan o’n pecyn o gefnogaeth a manteision.
“Rydym ni’n croesawu ymholiadau gan bobl o bob cefndir a phrofiad.”
Ar ôl rhannu’r newyddion gyda’n gofalwyr maeth, dyma ychydig o adborth ganddynt:
“Mae hwn yn fenter wych ar gyfer gofalwyr maeth. Am ganlyniad! Diolch i bawb sydd wedi gweithio’n galed i sicrhau hyn. Bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i’n haelwyd.”
“Newyddion cyffrous, diolch i chi am wthio pethau yn eu blaenau i ni fel gofalwyr maeth”.
“Mae’r fenter wych hon yn adlewyrchiad cadarnhaol o’r ffordd mae Awdurdod Lleol Conwy yn gweld maethu a dw i’n siŵr y bydd yn cael croeso cynnes”.
Mae’r fenter hon yn ychwanegol at y gefnogaeth ymroddedig, lwfansau hael, cyfleoedd dysgu amrywiol a’r gymuned wych o ofalwyr maeth sy’n helpu i gadw plant Conwy yn ein cymunedau.
Os ydych chi’n byw yng Nghonwy ac eisoes yn maethu neu’n ystyried maethu am y tro cyntaf, yr unig ffordd i chi fanteisio ar y buddion yma ydi maethu efo ni.
Os hoffech chi drafod maethu neu holi am drosglwyddo i faethu efo ni yn lle’ch asiantaeth bresennol, gallwch anfon neges ar ein gwefan neu ffonio ni ar 01492 576350.
I gael rhagor o wybodaeth am faethu yng Nghonwy neu i wneud ymholiad, ewch i:
https://conwy.maethucymru.llyw.cymru/
Mae manylion llawn ein pecyn o gefnogaeth ar gael yma:
https://conwy.maethucymru.llyw.cymru/cefnogaeth-a-manteision/
Mae Maethu Cymru Conwy yn rhan o rwydwaith cenedlaethol o dimau maethu 22 o awdurdodau lleol sydd wedi pennu nod i recriwtio dros 800 o deuluoedd maeth newydd erbyn 2026, i ddarparu cartrefi croesawgar i blant a phobl ifanc lleol.
Wedi ei bostio ar 11/09/2024