Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Etholiad Cyffredinol - Wythnos ar ôl i gofrestru i bleidleisio

Etholiad Cyffredinol - Wythnos ar ôl i gofrestru i bleidleisio


Summary (optional)
start content

Etholiad Cyffredinol - Wythnos ar ôl i gofrestru i bleidleisio

Mae'n rhaid i unrhyw un sydd am bleidleisio yn yr etholiad cyffredinol ar 4 Gorffennaf fod wedi cofrestru i bleidleisio cyn y dyddiad cau am hanner nos ar 18 Mehefin.

Gall pleidleiswyr wneud cais ar-lein yn gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio. Dim ond pum munud mae'n ei gymryd.

Mae sawl opsiwn ar gael i bleidleiswyr – gallant bleidleisio'n bersonol, drwy'r post neu drwy benodi rhywun y maent yn ymddiried ynddo i bleidleisio ar eu rhan, a elwir yn bleidlais drwy ddirprwy. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais bost yw 5pm ar 19 Mehefin. Mae'r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy wythnos yn ddiweddarach, sef 5pm ar 26 Mehefin.

Am y tro cyntaf mewn etholiad cyffredinol yn y DU, bydd angen i bleidleiswyr ddangos ID ffotograffig yn yr orsaf bleidleisio. I gael gwybod pa fath o ID y gallwch ei ddefnyddio yn yr orsaf bleidleisio, ewch i wefan y Comisiwn Etholiadol.

Os nad oes gennych unrhyw un o'r mathau o ID a dderbynnir, gallwch wneud cais am ID am ddim yn Gwneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr | Electoral Commission neu drwy gwblhau ffurflen bapur a'i chyflwyno i'ch awdurdod lleol. Rhaid i chi wneud cais erbyn 5pm ar 26 Mehefin er mwyn gallu defnyddio'r Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr ar 4 Gorffennaf.

Dywedodd Rhun ap Gareth, y Swyddog Canlyniadau Gweithredol: “Peidiwch â cholli eich cyfle i ddweud eich dweud yn yr etholiad cyffredinol. Os nad ydych yn siŵr a oes angen i chi gofrestru i bleidleisio, neu os oes gennych gwestiynau am sut i wneud cais am bleidlais bost neu bleidlais drwy ddirprwy, neu i gael ID am ddim, gallwch gysylltu â Linell Gymorth Etholiadau Conwy ar 01492 575570.”

Dywedodd Craig Westwood, Cyfarwyddwr Cyfathrebu'r Comisiwn Etholiadol: “Mae'n bwysig bod pobl yn gwneud yn siŵr eu bod yn barod ar gyfer yr etholiad cyn y dyddiadau cau sydd ar ddod. Rhaid i bob pleidleisiwr fod wedi'i gofrestru, a gall fod angen i rai wneud cais am bleidlais bost neu bleidlais drwy ddirprwy neu i gael ID am ddim. Mae cofrestru i bleidleisio'n hawdd ac yn gyflym, a gellir ei wneud ar-lein.

“Bydd angen i bleidleiswyr ddangos ID ffotograffig mewn gorsafoedd pleidleisio ar gyfer yr etholiad cyffredinol hwn. Gall unrhyw un nad oes ganddo un o'r mathau o ID ffotograffig a dderbynnir wneud cais i gael ID am ddim ar-lein neu drwy gwblhau ffurflen bapur a'i chyflwyno i'w gyngor lleol.”

Gellir dod o hyd i wybodaeth am y gofyniad newydd a'ch opsiynau pleidleisio ar wefan y Comisiwn Etholiadol.

Wedi ei bostio ar 11/06/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content